16.4 C
Llanelli
Saturday, July 4, 2026
Home Local News  Defnyddiodd Moch Daear St John Ambulance Cymru eu sgiliau cymorth cyntaf i...

 Defnyddiodd Moch Daear St John Ambulance Cymru eu sgiliau cymorth cyntaf i helpu pan gafodd eu tadcu anaf i’w ben ar ôl cwympo gartref

0
48
MennaBronwenLaurence Elias

Yn ddiweddar, rhoddodd dau o aelodau ieuengaf Adran Caerfyrddin St John Ambulance Cymru’r sgiliau cymorth cyntaf a ddysgon nhw gyda’r elusen ar waith pan anafwyd eu tadcu gartref.

Roedd tadcu Menna a Bronwen yn gofalu amdanyn nhw, pan gafodd gwymp bach a thorri ei ben. Yn ffodus, oedd y ddau barod i helpu, wedi cwblhau modiwl Moch Daear Cymorth Cyntaf gyda’u grŵp Moch Daear leol yn ddiweddar.

Gan ddilyn y camau roedden nhw wedi’u dysgu yn eu sesiynau Moch Daear, ni wnaethon nhw wylltu, ac fe wnaethon nhw ffonio eu tad i adrodd fod eu tadcu wedi’i anafu, aros gydag ef nes i’w tad ddod adref a sylweddoli y byddai angen iddyn nhw ddatgloi’r drws er mwyn i’w tad allu mynd i mewn i’r tŷ.

Mae rhieni’r merched, Daniel Elias a Jemma Laurence, sydd ill dau yn gweithio mewn rolau gofal iechyd, hefyd yn wirfoddolwyr St John Ambulance Cymru ac wedi dysgu’r plant i’w ffonio nhw os bydd unrhyw broblemau a dim ond ffonio 999 mewn argyfyngau.

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Daniel: “Fe wnaethon nhw ill dau aros yn dawel iawn, fe wnaethon nhw ffonio fi ac roedden nhw’n gwbl dawel yn adrodd beth oedd wedi digwydd. Dywedodd Bronwen fod Menna yn rhoi pwysau ar y toriad ac roedd hi hyd yn oed wedi datgloi’r drws i mi cyn i mi gyrraedd yno.

“Rhoddais lanhad cyflym i’r toriad a rhoi rhai stripiau di-haint arno gyda chymorth Menna, tra bod Bronwen yn fy nghyfarwyddo ar beth i’w wneud ac i ffwrdd â ni.

“Ni allaf fod yn fwy balch ohonyn nhw am yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu fel Moch Daear a pha mor dawel oedden nhw ill dau mewn sefyllfa a fyddai wedi bod yn eithaf llawn straen i bobl mor ifanc.

“Rydym yn ddiolchgar am waith gwych Arweinwyr y grŵp Moch Daear i addysgu cenedlaethau’r dyfodol cymorth cyntaf yn ogystal â sut i ddelio ag argyfyngau.”

Mae grwpiau Moch Daear St John Ambulance Cymru ar gyfer plant 5-11 oed. Er eu bod yn ymdrin â phynciau cymorth cyntaf, maent hefyd yn dysgu am amrywiaeth o bynciau eraill gan gynnwys y gofod a chyfathrebu.

Dywedodd Donna Jones, sy’n arwain Moch Daear St John Ambulance Cymru yng Nghaerfyrddin: “Rydym wrth ein bodd yn clywed am eu meddwl cyflym a’u hymateb synhwyrol, tawel mewn sefyllfa bywyd go iawn.

“Fe wnaethon ni gyflwyno Mochyn Daear fach eu hunain iddyn nhw ill dau yn ystod ein sesiwn nesaf. Er eu bod nhw ill dau wedi synnu ac yn ostyngedig, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig iawn cydnabod pa mor glyfar oedden nhw ar y diwrnod hwnnw a pha mor falch ydyn ni ohonyn nhw.”

I gael gwybod mwy am raglenni Plant a Phobl Ifanc St John Ambulance Cymru, gan gynnwys Mochyn Daear (ar gyfer plant 5-11 oed) a Chadetiaid (ar gyfer plant 11-15 oed) ewch i www.sjacymru.org.uk/young-people.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.