17.2 C
Llanelli
Tuesday, July 28, 2026
Home Rail Transport for Wales Uwchraddiadau peirianneg wedi’u cynllunio ar gyfer Metro De Cymru’r haf hwn

Uwchraddiadau peirianneg wedi’u cynllunio ar gyfer Metro De Cymru’r haf hwn

0
71
TfW Class 756
Bydd uwchraddiadau rheilffyrdd mawr fel rhan o Metro De Cymru yn digwydd yr haf hwn ac mae teithwyr rheilffordd yn cael eu hannog i wirio cyn iddynt deithio.

Bydd uwchraddiadau rheilffyrdd hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyflymach ac amlach yn effeithio ar Linellau Cymoedd De Cymru i Gaerdydd ac oddi yno.

Caiff y gwaith ei gyflawni o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf i ddydd Sadwrn 15 Awst ar draws rhannau o linellau Rhymni, Coryton, Bae Caerdydd, Treherbert, Aberdâr a Merthyr.

Mae hyn yn cynnwys cau am bythefnos ar draws llinell Treherbert a chau am wythnos ar linellau Aberdâr a Merthyr.Er mwyn cadw teithwyr yn symud, bydd Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwasanaethau bws yn lle trên ar waith drwy gydol y blocâd gyda manylion llawn, amserlenni ac offerynnau cynllunio teithiau ar gael yn https://trc.cymru/prosiectau/metro/metro-de-cymru/newidiadau-gwasanaeth 

Bydd y cau yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru uwchraddio’r rheilffyrdd, ailosod y trac yng ngorsaf Pontypridd, gwneud gwelliannau i’r cledrau a’r system ddraenio ar lein Treherbert a sicrhau mynediad gwastad yng ngorsaf Pentre-bach.

Dywedodd Dan Tipper, Prif Swyddog Seilwaith TrC: “Mae’r gwaith hwn yn gam pwysig arall wrth gyflawni Metro De Cymru a thrawsnewid teithiau rheilffordd ar draws De Cymru. Er ein bod yn gwybod y bydd y cyfnod cau yn achosi rhywfaint o darfu, bydd y gwelliannau rydym yn eu gwneud nawr yn helpu i greu rheilffordd fwy dibynadwy, hygyrch ac wedi’i chysylltu’n well ar gyfer y dyfodol.”

“Hoffem ddiolch i gwsmeriaid a chymunedau lleol am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn digwydd. Gan y bydd gwasanaethau rheilffordd yn cael eu heffeithio yn ystod y cau arfaethedig, rydym yn annog cwsmeriaid i gynllunio ymlaen llaw a gwirio’r trefniadau teithio a fydd ar waith ar gyfer eich taith, gan gynnwys unrhyw wasanaethau bws yn lle trên, a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio lle bo angen.”

[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.