9.7 C
Llanelli
Thursday, February 26, 2026
Home Mid And West Wales Fire and Rescue Merch chwech oed yn tynnu sylw at dân mewn eiddo

Merch chwech oed yn tynnu sylw at dân mewn eiddo

0
534
445f8e47f019400b90d2d1a76b39471f
445f8e47f019400b90d2d1a76b39471f

Hoffai Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddiolch i Mia o Aberdaugleddau, sy’n chwech oed, am ei diffyg cyffro a’i gallu i feddwl yn gyflym wrth rybuddio cymydog i ffonio 999 i roi gwybod am dân mewn eiddo.

Brynhawn Sul, 28 Mawrth 2021, roedd Mia yn cerdded heibio i gefn fflat pan sylwodd ar fwg yn dod allan o’r eiddo. Gan ei bod wedi cael ei dysgu am bwysigrwydd rhoi gwybod am dân, aeth Mia ati ar unwaith i guro ar ddrws cymydog i ddweud wrtho. Yna, ffoniodd y cymydog 999 a gofyn am y Gwasanaeth Tân

Am 5:52pm, cafodd y Ganolfan Rheoli Tân ar y Cyd yr alwad, ac anfonwyd criwiau o Aberdaugleddau i ymateb i’r tân yn yr eiddo yn Aberdaugleddau.

Roedd y tân wedi’i gadw yn ardal cegin y fflat llawr gwaelod, ac wedi cynnau o gadach sychu llestri a oedd wedi cael ei adael ar hob trydan.

Aeth y diffoddwyr tân ati i ddiffodd y tân trwy ddefnyddio dau gyfarpar anadlu, jet olwyn piben a chamera delweddu thermol.

Gadawodd y Gwasanaeth Tân y digwyddiad am 7:03pm.

Dywedodd y Rheolwr Criw Rob Makepeace, Gorsaf Dân Aberdaugleddau, “Oherwydd gweithredu cyflym Mia, roeddem wedi  gallu ymateb i’r tân yn gyflym, ac ni chafodd y tân gyfle i waethygu. Mae’n arwres leol, ac yn esiampl i bawb.

Po gyntaf yr ydych yn rhoi gwybod am dân, cyflymaf y gall y Gwasanaeth Tân ymateb i’w ddiffodd a’i atal rhag lledaenu.

Yn ffodus, ar yr adeg hon, roed Mia wrth law i sylwi ar y tân a dweud wrth rywun am ffonio 999, ond byddwn yn annog pawb i osod larymau mwg sy’n gweithio yn eu cartrefi, a’u profi’n rheolaidd. Gall larwm mwg sy’n gweithio eich rhybuddio’n gynt am dân, a’ch galluogi i fynd allan, aros allan, a ffonio 999 i ofyn am y Gwasanaeth Tân.”

I gael rhagor o gyngor ar Ddiogelwch Rhag Tân yn y Cartref, neu i siarad am y posibilrwydd o gael Ymweliad Diogel ac Iach gan bersonél y Gwasanaeth Tân ac Achub, ffoniwch ni ar 0800 169 1234.​​​ Fel arall, llenwch y ffurflen ar-lein i ofyn am Ymweliad Diogel ac Iach, a hynny ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/yn-y-cartref/


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.