17.8 C
Llanelli
Tuesday, September 15, 2026
Home hywel dda health board Newid mewn lleoliadau casglu ar gyfer Profion LFD

Newid mewn lleoliadau casglu ar gyfer Profion LFD

0
526
s960 coronavirus lateral flow antigen rapid test 1
s960 coronavirus lateral flow antigen rapid test 1

O ddydd Mercher 18 Awst 2021, bydd citiau hunan-brofi dyfais llif ochrol (LFD) ar gael i’w casglu o fferyllfeydd cymunedol yn unig ac nid o’r unedau profi COVID-19 sydd wedi’u lleoli yn Aberystwyth, Llanelli, Hwlffordd a Sir Gâr.

Mae citiau profi LFD hefyd yn parhau i fod ar gael i’w harchebu i’w danfon i’ch cartref trwy Wefan y GIG.

Yn lle hynny, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn cynyddu’r capasiti ar gyfer profion symptomatig (profion PCR) ar y safleoedd hyn, y mae’n rhaid eu harchebu ar-lein trwy www.gov.wales/coronavirus neu trwy ffonio 119.

Mae’r unedau profi Covid-19 wedi’u lleoli yn:

• Canolfan Rheidol, Aberystwyth

• Iard Dafen, Llanelli

• Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd

• Maes Sioe Caerfyrddin

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynghori pobl i gael prawf cyn pen pum niwrnod os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau canlynol:

  • Peswch parhaus newydd
  • Tymheredd uchel
  • Colli neu newid eich synnwyr arogl neu flas

Er mwyn helpu i nodi achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau wrth i amrywiadau newydd o’r feirws ddod i’r amlwg, mae’r bwrdd iechyd hefyd yn annog pobl i gael prawf os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau canlynol, sy’n newydd, yn barhaus a / neu’n anarferol i chi:

• Symptomau annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen

• Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i rwystro; tisian yn barhaus; dolur gwddf a / neu crygni, prinder anadl neu wichian; cyfog; chwydu; neu ddolur rhydd

• Teimlo’n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos COVID-19 hysbys

• Unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith am 10 diwrnod os oes gennych unrhyw un o’r symptomau uchod ac archebu prawf PCR.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.