13.1 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Lansio Canolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty Glangwili

Lansio Canolfan Ymchwil Glinigol Ysbyty Glangwili

0
629
GGH Research Centre opening March 2022
GGH Research Centre opening March 2022

Mae canolfan ymchwil glinigol newydd sbon wedi agor yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, gan roi cyfle i fanteisio ar gyfleoedd ymchwil newydd i gleifion yng ngorllewin Cymru.

Bydd yr ardal bwrpasol newydd hon yn lleihau’r pwysau ar adrannau eraill yn yr ysbyty ac yn gwneud Sir Gaerfyrddin yn safle mwy deniadol i gynnal ymchwil a allai, o bosibl, newid bywydau. Bydd y ganolfan hon yn cynnig cyfle i gleifion gymryd rhan mewn treialon clinigol sy’n cynnig cyfle i fanteisio’n gynharach ar y triniaethau a therapïau diweddaraf.

Mae’r buddsoddiad o £250,000 wedi arwain at ddatblygu ystafelloedd clinigol pwrpasol i drin a monitro cleifion a labordy amlddefnydd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i alluogi prosesu samplau yn annibynnol o adrannau prysur eraill.

Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore, a’r Cadeirydd, Maria Battle, a agorodd y ganolfan ymchwil, ac ymunodd y tîm ymchwil â nhw.

Dywedodd Leighton Phillips, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein hymdrechion ymchwil wedi canolbwyntio’n briodol ar yr astudiaethau iechyd cyhoeddus brys sy’n datblygu triniaethau ar gyfer COVID-19 a’i effeithiau. Bydd y ganolfan ymchwil glinigol newydd hon yn ein galluogi i barhau â’n hymchwil i feysydd allweddol fel orthopedeg, oncoleg a ffrwythlondeb.

“Rydym ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth a’r buddsoddiad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r bwrdd iechyd i ddatblygu ymchwil a’i diogelu ar gyfer y dyfodol yng Nghymru ac mae’r tîm wedi mynd y tu hwnt i gefnogi ein twf yn y maes hwn.

“Mae ymchwil yn elfen arall o ofal cleifion ac rydym yn gweld rhai pobl bob mis am 10 mlynedd felly mae bod â lle newydd i gynnal yr ymchwil hwnnw yn bwysig iawn gan y gallai’r ymchwil hon wella, neu hyd yn oed achub, nid yn unig eu bywydau nhw ond bywydau pobl yn y dyfodol.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Cymorth a Chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Nicola Williams: “Mae gennym ni nifer o ganolfannau ymchwil clinigol ledled Cymru sy’n golygu ein bod ni’n gallu darparu cymaint o gyfleoedd â phosibl i bobl Cymru gymryd rhan mewn ymchwil yn eu hardal leol. Mae bod â lle pwrpasol ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn golygu y gallwn ni gynnig mwy o gyfleoedd ymchwil i fwy o bobl, heb effeithio ar wasanaethau clinigol eraill.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.