13.1 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home hywel dda health board Hwb i gleifion a staff gyda sganiwr CT newydd gwerth £2.2m yn...

Hwb i gleifion a staff gyda sganiwr CT newydd gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili 

0
416
CT 2
CT 2

Mae cleifion ar draws de-orllewin Cymru wedi cael hwb yn dilyn gosod sganiwr CT newydd sbon gwerth £2.2m yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili.

Mae’r sganiwr, sydd wedi’i ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru, yn ymgorffori’r dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael a bydd yn gwella profiad y claf yn sylweddol gyda gwell datrysiad ac amseroedd sgan cyflymach.

Bellach gellir perfformio sganiau o’r garddwrn a phenelin gyda’r claf yn eistedd mewn cadair, a gellir perfformio’r ddelwedd mewn 4D. Gellir cael sganiau cardiaidd mewn un curiad calon a bydd yn galluogi i Ysbyty Glangwili i ddarparu gwasanaeth CT Cardiaidd i’n cleifion ac mae’r sganiwr newydd yn golygu y gellir gwneud sganiau ymennydd mewn un cylchdro (0.40 eiliad), a fydd o fudd i gleifion pediatrig. Mae gan y sganiwr hefyd hyd bwrdd estynedig sy’n golygu y gallwn sganio o’r pen i’r traed.

Dywedodd Sarah Procter, Radiograffydd Arolygol Arweiniol yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili: “Rydym wrth ein bodd i gael y darn hwn o dechnoleg yn y bwrdd iechyd. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cleifion – mae’n llawer mwy cyfeillgar i gleifion ac yn cynhyrchu ansawdd delwedd llawer uwch. Diolch i bawb a fu’n ymwneud â chaffael, adeiladu a gosod.”

CT waiting room

Yn ychwanegol, mae Adran Radioleg yr ysbyty hefyd wedi’i hailgynllunio’n ofalus i wella profiad y claf, ac mae ganddi bellach ddwy ystafell aros ar wahân ar gyfer cleifion mewnol a chleifion allanol, toiledau cleifion, ystafell newid ac ardal caniwleiddio. Mae’r uned wedi’i haddurno â murluniau o dirweddau Sir Gaerfyrddin ac mae’n cynnwys goleuadau y gellir eu haddasu.

Dywedodd Andrew Carruthers, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru o fudd mawr i’n cleifion. Bydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i fynd i’r afael â’n hôl-groniad o Covid-19 drwy gynyddu ein capasiti a lleihau amseroedd aros.”

Bydd y sganiwr CT dros dro, a oedd wedi’i leoli dros dro ym maes parcio’r ysbyty, nawr yn symud i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd tra’n disgwyl am gael sganiwr newydd. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.