13.1 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home Charity Her Elusennau ar Gestull a Chopa ar gyfer Apel Chemo Bronglais

Her Elusennau ar Gestull a Chopa ar gyfer Apel Chemo Bronglais

0
517
Castles and Peaks picture 3 new Karen and Ian
Castles and Peaks picture 3 new Karen and Ian

Mae Karen Kemish ac Ian Brandreth yn ymgymryd â her anferthol o gestyll a chopaon ym mis Mai i godi arian at Apêl Cemo Bronglais.

Mewn dau ddiwrnod, mae’r ddau o Aberystwyth yn cynllunio seiclo rhwng cestyll Caernarfon a Chaerdydd, tra’n hefyd dringo tair copa Cymraeg sef yr Wyddfa, Cadair Idris a Pen y Fan.

Dyna gyfanswm o 200 milltir o seiclo a 22,500 troedfedd i ddringo ar y 7fed ac 8fed o Fai!

Byddent wrth eu bodd pe bai pobl yn ymuno â nhw am y cyfan neu ran o’r llwybr – boed yn dringo un o’r copaon neu’n beicio rhan gyda nhw.

Mae Karen ac Ian wedi colli eu mamau i ganser ac roedd y ddau eisiau codi arian i gefnogi cleifion.

Karen-and-Ian

Dywedodd Karen: “Cafodd fy mywyd ei newid yn aruthrol pan fu farw fy mam hyfryd Babs o ganser bedair blynedd yn ôl ac, yn anffodus, cafodd Ian brofiad tebyg pan fu farw ei fam, Bridie, ym mis Mai’r llynedd.

“Cawsom y syniad o wneud her i helpu Apêl Cemo Bronglais a Hospis Katherine House oherwydd bod y ddau achos hyn yn agos iawn at ein calonnau.”

Ychwanegodd Ian, 52: “Rwy’n gweld yr her codi arian hon fel ffordd o ad-dalu a thalu ymlaen. Bydd uned ddydd cemotherapi newydd ar gyfer Ysbyty Bronglais yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl sy’n agored i niwed yn glinigol. Mae cael uned yn lleol yn lleihau’r straen o deithio’n bell am driniaeth.”

Mae’r ddau yn hyfforddi’n gyson tra’n gweithio’n llawn amser, Karen fel therapydd tylino chwaraeon a brechwr COVID-19, ac Ian fel uwch ymarferydd parafeddygol.

“Rydym yn seiclo cymaint ag y gallwn ac yn gwneud rhedeg mynydd i baratoi at yr her,” meddai Karen.

“Rwy’n gwyro rhwng cyffro ac ofn wrth i mi baratoi,” ychwanegodd Ian. “Rydw i wir yn gorfod codi fy ngêm am hyn.”

Dywedodd y ddeuawd eu bod am ddiolch i’w tîm cefnogi o Anita ac Andrew Kinsey, Pat Riley a Beth Riley, a fydd wrth gefn trwy gydol eu hantur epig. Os hoffech gyfrannu, dyma’r ddolen i dudalen Karen http://bitly.ws/phX4 a dyma dudalen Ian http://bitly.ws/phX5

Mae Apêl Cemo Bronglais yn anelu at godi’r £500,000 sydd ei hangen i ddechrau ar y gwaith adeiladu ar uned dydd cemotherapi newydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol ar gyfer Ysbyty Bronglais, er mwyn gwella profiad y claf.

Am ragor o wybodaeth am yr Apêl, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.