11.9 C
Llanelli
Sunday, October 25, 2026
Home Farming Bŵtcamp llaeth yn ceisio helpu newydd-ddyfodiaid i adeiladu busnesau llwyddiannus

Bŵtcamp llaeth yn ceisio helpu newydd-ddyfodiaid i adeiladu busnesau llwyddiannus

0
421
Bwtcamp llaeth Dairying bootcamp min
Bwtcamp llaeth Dairying bootcamp min

Mae cwrs busnes sy’n canolbwyntio’n benodol ar y diwydiant llaeth wedi’i greu gan Cyswllt Ffermio i helpu newydd-ddyfodiaid ffynnu yn y sector.

Nod y Bŵtcamp Busnes dwys deuddydd yw rhoi hyder, sgiliau a chymhelliant i newydd-ddyfodiaid i fanteisio ar gyfleoedd, datblygu busnesau effeithlon ac adeiladu gyrfa lwyddiannus.

Matthew Jackson, ffermwr llaeth…

Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs preswyl yn cael y cyfle i gael gwybodaeth gan amrywiaeth dda o siaradwyr, meddai’r trefnydd Eiry Williams, o Cyswllt Ffermio.

“Bydd y cwrs yn ymdrin â chynllunio busnes, ffermio cyfran a phori a bydd hefyd yn cynnwys ymweliad â fferm,” eglura.

John Crimes, yr ymgynghorydd amaethyddol o CARA Cymru fydd yn cyflwyno’r modiwlau hynny, a bydd yn rhoi arweiniad ar gytundebau ffermio cyfran a chynlluniau busnes, tra bydd yr ymgynghorydd ar newid sefydliadol, Wyn Owen yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ganolbwyntio eu meddyliau ar ble maent am fynd nesaf – ac, yn bwysig iawn, sut i gyrraedd yno.

Nid oes ffordd well o gael ysbrydoliaeth na chlywed gan y rhai a oedd yn newydd-ddyfodiaid eu hunain unwaith. Yn gwneud hynny bydd ffermwr o Gonwy, Sam Pearson, Mentor Cyswllt Ffermio, a fydd yn rhoi cipolwg ar ei stori a’i system ffermio.

Eilir Evans, Henbant, dairy farmer and Farming Connect Mentor.

Ffermwr arall sy’n sicr o ysbrydoli yw Matthew Jackson, y mae ei gynnydd trawiadol o fewn y diwydiant llaeth wedi golygu ei fod wedi datblygu o fod yn berchen ar ddim gwartheg i fwy na 1,300 mewn 11 mlynedd yn unig. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn clywed sut y cyflawnodd hynny, tra bydd yr hyfforddwr corfforaethol Emma Shaw, uwch bartner gyda Real Success yn darparu sesiwn bwerus ar ddeinameg tîm er mwyn cefnogi mynychwyr i ymdrin â phobl yn fwy effeithiol.

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn y Moody Cow, Fferm Bargoed, Llwyncelyn, Aberaeron, lle bydd y perchennog, Geraint Thomas, yn rhoi cipolwg ar ei fusnes llwyddiannus.

Bydd yr ymweliad â fferm Henbant lle mae Eilir Evans yn cynhyrchu llaeth o’i fuches llaeth sy’n cynnwys 700 o wartheg wedi’u rhannu’n ddwy uned.

Cynhelir y cwrs ddydd Mercher 22 Tachwedd a dydd Iau 23 Tachwedd 2023 a darperir llety dros nos.

I neilltuo lle neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Eiry ar eiry.williams@menterabusnes.co.uk neu 07985155670.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.