10.2 C
Llanelli
Tuesday, March 10, 2026
Home Work Apprenticeship Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfle i arddangos a...

Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Cyfle i arddangos a ddathlu llwyddiant prentisiaethau Cymru yn y Senedd

0
382
WNS 120225 Apprenticeships Fair 17 scaled
WNS 120225 Apprenticeships Fair 17 scaled

Roedd Ffair Brentisiaethau a gynhaliwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd ddydd Mercher yn llwyddiant “ysgubol” yn ôl darparwyr dysgu seiliedig ar waith o Gymru.

Daeth Aelodau o’r Senedd, darparwyr prentisiaethau, prentisiaid a chyflogwyr ynghyd i ddathlu Wythnos Brentisiaethau Cymru 2025 yng nghartref Llywodraeth Cymru.

Cyd-drefnwyd y digwyddiad gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) a ColegauCymru a’i gydlynu gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau, sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS.

Roedd pob un o’r 10 o ddeiliaid contractau dysgu seiliedig ar waith yn y digwyddiad, ynghyd ag Aelodau o’r Senedd a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Medr.

Traddodwyd y prif anerchiad gan Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, ar ran Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a oedd yn methu bod yn bresennol.

Y Gweinidog, Vikki Howells, yn annerch y ffair brentisiaethau.

“Rwy wrth fy modd o gael y cyfle hwn i helpu i ddathlu Wythnos Brentisiaethau Cymru,” meddai. “Mae’n gyfle i gydnabod holl lwyddiannau gwych prentisiaid yng Nghymru ac annog rhagor o unigolion a busnesau i gymryd rhan a phrofi’r manteision y gall prentisiaeth eu cynnig.

“Rydym yn ymroi i baratoi dysgwyr yng Nghymru ar gyfer swyddi heddiw ac yfory, ac mae prentisiaethau’n cynnig profiad ymarferol sy’n cyd-fynd ag addysg academaidd.

Ac meddai aelod Llafur arall o’r Senedd, Joyce Watson: “Roeddwn yn falch iawn o gael agor y digwyddiad ysbrydoledig hwn a hoffwn ddiolch i’r holl brentisiaid ac arddangoswyr a ddaeth i rannu eu profiadau.

“Roedd y digwyddiad yn gyfle i weld pa mor eang yw’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru.  Roedd yn dathlu’r partneriaethau sydd rhwng addysgwyr, cyflogwyr a llunwyr polisïau, gan amlygu’r rhan hollbwysig y mae prentisiaethau’n ei chwarae yn economi Cymru.  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu nod uchelgeisiol sef creu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2026, ac rwy’n credu y gellir cyflawni hynny trwy gydweithio ac arloesi.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd yr NTFW a ColegauCymru: “Mae prentisiaethau’n hanfodol er mwyn adeiladu gweithlu medrus a chefnogi economi Cymru.  Maent yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau fel y gall unigolion ennill cyflog, dysgu, a ffynnu ac, ar yr un pryd, yn helpu busnesau i dyfu a llwyddo.  

“Roedd y Ffair Brentisiaethau’n llwyfan ardderchog i ddangos amrywiaeth y doniau a’r ysbryd arloesol a welir yng Nghymru diolch i brentisiaethau.  Yn ystod Wythnos Brentisiaethau Cymru roeddem yn falch o ddathlu’r hyn a gyflawnwyd gan brentisiaid ac o bwysleisio ein hymrwymiad i hyrwyddo’r llwybr hollbwysig hwn ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.

“Mae’r NTFW a ColegauCymru yn falch o hyrwyddo mentrau fel y Ffair Brentisiaethau, oedd yn dathlu’r hyn a gyflawnwyd gan brentisiaid ac yn amlygu’r rhan hanfodol y maent yn ei chwarae yn creu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus.

“Llwyddodd y digwyddiad yn y Senedd i gyrraedd y nod o dynnu sylw at sgiliau prentisiaid a dangos pam y mae angen rhagor o fuddsoddiad yn llwybrau prentisiaethau er mwyn gwireddu blaenoriaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau twf economaidd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.