19.4 C
Llanelli
Thursday, May 28, 2026
Home Newyddion Lle Taclo Digartrefedd, Cynllun grant £10m yn ail-lansio heddiw.

Taclo Digartrefedd, Cynllun grant £10m yn ail-lansio heddiw.

0
675
Homeless in Llanelli
Homeless in Llanelli

Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru yn ail-lansio ei chynllun grant gwerth £10m cyn Diwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Sadwrn (10/10/2020) sy’n tynnu sylw at drafferthion pobl sy’n dioddef digartrefedd yn fyd-eang. Bydd y cynllun yn annog sefydliadau sy’n ceisio rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru i gydweithio â’r bobl y maent yn ceisio eu helpu, i fynd i’r afael â materion yn gynharach, ar y cyd ac yn fwy effeithiol.

 

Mae digartrefedd wedi bod yn y penawdau’n aml gydag adroddiadau y canfuwyd lleoedd i lawer o bobl aros yn ystod y cyfnod clo. Mae sefydliadau ac elusennau wedi dweud eu bod wedi bod yn fwy llwyddiannus wrth weithio gyda phobl sy’n profi digartrefedd i wella eu sefyllfaoedd ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

 

Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei bod yn ail-lansio’r cynllun grant: Taclo Digartrefedd i geisiadau.  Cafodd y cynllun ei oedi am adolygiad i sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn ddefnyddiol.  Croesawodd Katie Dalton, Cyfarwyddwr Cymorth Cymru (sefydliad ymbarél elusennau digartref Cymru) yr ail-lansiad gan ddweud:

“Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cartref diogel, yn ogystal â’r effaith gadarnhaol y mae gwasanaethau digartrefedd, tai a chymorth yn ei chael ar fywydau pobl. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar yr ymdrechion eithriadol yn ystod y pandemig hwn i gyflawni argymhellion y Grŵp Gweithredu digartrefedd a rhoi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.

“Mae’n wych gweld Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn darparu arian grant a chefnogaeth sylweddol i helpu i wireddu hyn. Rwy’n annog pob sefydliad digartrefedd a chymorth tai i fanteisio ar y cyfle hwn a gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu prosiectau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar drawma, sy’n helpu i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru.”

 

Nod y cynllun grant gwerth £10m o’r enw Taclo Digartrefedd yw mynd i’r afael ag achosion ac effaith digartrefedd. Bydd y cynllun yn annog elusennau ac asiantaethau i weithio gydag awdurdodau lleol a chyda phobl sy’n ddigartref, i fynd i’r afael ag achosion digartrefedd. Nod y grantiau, sy’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, fydd ceisio atal pobl rhag troi at soffas, gwely a brecwast a hyd yn oed y strydoedd drwy ymyrryd mewn ffordd gadarnhaol. Er mwyn cael gafael ar y grantiau, bydd angen i sefydliadau gydweithio a chynnwys pobl sydd eisoes yn ddigartref a’r rhai sydd mewn perygl, mewn strategaethau cynllunio er mwyn osgoi mynd i sefyllfa beryglus a llawn straen.  

 

Ychwanegodd Rob Roffe, Pennaeth Gwybodaeth a Dysgu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

“Teimlwn fod hwn yn amser delfrydol i ymgysylltu â’r Elusennau, y Cymdeithasau Tai a’r Awdurdodau Lleol sydd i gyd â diddordeb mewn rhoi terfyn ar ddigartrefedd.  Mae ymateb i’r pandemig wedi rhoi cyfle i bawb gymryd cam yn ôl ac edrych ar sut i weithio’n fwyaf effeithiol, gobeithiwn y bydd y cynllun grant hwn yn rhoi cymhelliad iddynt ymgysylltu â’r bobl y maent am eu helpu i gynllunio atebion diffuant, hirdymor i atal pobl rhag gorfod byw drwy’r profiad anodd o gael eu gwneud yn ddigartref.”

 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here