14 C
Llanelli
Monday, October 26, 2026
Home Newyddion Lle Pentref Iechyd a Llesiant newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i roi hwb...

Pentref Iechyd a Llesiant newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i roi hwb mawr i ofal yn y gymuned, iechyd meddwl a llesiant.

0
805
Sunnyside 1
Sunnyside 1

Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi cyllid gwerth £18 miliwn i gefnogi Pentref Iechyd a Llesiant integredig newydd gwerth £23 miliwn yn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y prosiect yn Sunnyside ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymestyn dros 4.6 erw a bydd yn cynnwys meddygfa, tai anghenion cyffredinol a thai â chymorth. Yn ogystal â hynny, bydd gwasanaethau cymunedol ar y safle yn helpu i greu Pentref Iechyd a Llesiant llawer mwy, gan hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl, sicrhau gwell gwybodaeth am ofal a chymorth yn y gymuned a lleihau ynysigrwydd cymdeithasol.

Bydd cyswllt rhwng y datblygiad newydd â Chanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cynnwys llyfrgell, caffi cymunedol, gwasanaeth lles a chyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwasanaeth atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff sy’n gysylltiedig â Chaeau Newbridge.

Ac yntau wedi’i gynllunio i gynnig gofal yn nes at y cartref, bydd y Pentref Iechyd a Llesiant yn darparu 59 o gartrefi fforddiadwy, gan gynnwys chwe chartref â chymorth ar gyfer unigolion sydd ag anableddau corfforol yn ogystal ag anableddau dysgu a 10 fflat i helpu unigolion i drosglwyddo o lety gofal neu lety â chymorth. Bydd ystafell bwrpasol ar gael yno hefyd, i wasanaethau’r trydydd sector a gwasanaethau allgymorth ei defnyddio.

Bydd y prosiect yn cael ei adeiladu ar safle hen swyddfeydd y Cyngor a’r Llys Ynadon a bydd yn defnyddio tir nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i greu mân amlbwrpas a fydd yn agored i holl drigolion y dref a thu hwnt ac yn cyfrannu at waith adfywio parhaus ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r prosiect yn derbyn £10.7m gan Raglen Gyfalaf GIG Cymru, £6.6m gan Grant Tai Cymdeithasol a’r Grant Cyllid Tai, £480,000 gan raglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig a £315,000 o Gyllid Seilwaith Gwyrdd gan y cynllun Trawsnewid Trefi, ynghyd â chyllid preifat. Mae’r datblygiad yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chymdeithas Tai Linc Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg:

“Mae pandemig y coronafeirws wedi amlygu pwysigrwydd iechyd meddwl a llesiant. Bydd y pentref iechyd a llesiant newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn rhoi hwb mawr i ofal yn y gymuned a llesiant drwy gynnwys amrywiaeth eang o adnoddau Iechyd a Llesiant, gan gynnwys cymorth i bobl eiddil a phobl hŷn, pobl ifanc agored i niwed a phobl ag anawsterau dysgu. Dylai helpu i osgoi unrhyw dderbyniadau diangen i’r ysbyty neu leoliadau gofal preswyl ac oedi pan fydd rhywun yn barod i gael ei ryddhau o sefydliad gofal.

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft dda o gydweithio rhwng y Bwrdd Iechyd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Linc Cymru i ddarparu canolfan amlweddog sy’n addas at y diben i ddarparu cymorth cofleidiol i rai o’n pobl fwyaf agored i niwed.”

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r misoedd diwethaf wedi ein hatgoffa ni i gyd o bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da a chydweithio i gefnogi iechyd a lles unigolion. Bydd y cynllun hwn yn darparu model newydd, gwell ar gyfer gofal sylfaenol sydd ag atebion hyblyg sy’n seiliedig at lety wrth wraidd iddo.

Nid yn unig y bydd y Pentref hwn yn gwella mynediad at amrywiaeth o wasanaethau ac yn dod â nhw ynghyd, bydd hefyd yn lleihau’r galw am ofal brys drwy ganiatáu i ragor o gyflyrau gael eu trin yn y gymuned ac yn nes at y cartref.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.