Ymunwch â Cyswllt Ffermio yn fyw o Nantglas, Caerfyrddin, un o’u safleoedd arddangos llaeth, o gysur eich cartref!
Mae prosiect cyffrous ar y gweill yn Nantglas gyda’r nod o dynhau’r blociau lloia i 9 wythnos fwy dwys, er mwyn medru cael gwartheg i feichiogi yn fwy effeithlon heb gynyddu cyfraddau gwag.
Trwy gydol y weminar byw, bydd Kate Burnby o Stock Plus Positive Farm Advice yn trafod:
- Cynllunio’r cyfnod paru a’r rhaglen paru heffrod
- Manteision profi gwaed a chael y mwyaf allan o’r profion
- Canlyniadau hyd yn hyn a’r camau nesaf
*Bydd y webinar yma neu rhan ohono yn y Gymraeg felly bydd yna wasanaeth cyfieithu ar gael.*
Er mwyn cymryd rhan yn y weminar yma, mae’n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb erbyn 3yp ar 25/11/2020. Cofrestrwch isod neu ebostiwch gwenan.evans@menterabusnes.co.uk
| [donate] | Help keep news FREE for our readersSupporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. |

















