17.7 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home Local News Carmarthenshire News #DiogeluCymru – Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch chi...

#DiogeluCymru – Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch chi ei wneud heddiw i’n helpu ni i’ch helpu chi’r gaeaf hwn.

0
676
Richard Evans
Richard Evans

‘Peidiwch â gohirio tan yfory yr hyn y gallwch ei wneud heddiw’ – mae dyfyniad enwog Benjamin Franklin yn wir am unrhyw un sydd angen cyngor meddygol ar hyn o bryd neu sy’n mynychu apwyntiad rheolaidd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am eich sicrhau bod yr holl wasanaethau gofal sylfaenol yn dal i fod yma i chi.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Helpwch ni i’ch helpu chi’r gaeaf hwn. Trwy ohirio anhwylderau bach neu apwyntiadau rheolaidd fe allech chi fod yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau brys y GIG.

“Gall beidio a chael prawf llygaid er eich bod chi’n gwybod bod eich golwg wedi dirywio arwain at gwymp cas yn y pen draw, neu, gall y peswch hwnnw a oedd angen meddyginiaeth gan fferyllydd arwain at argyfwng wrth iddo ddatblygu’n niwmonia.

“Mae’r ffordd y mae pobl yn cyrchu gwasanaethau’r GIG wedi newid, ac er y gallai edrych yn wahanol, mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn gweithio’n galed i gadw gwasanaethau i fynd wrth geisio cadw pawb yn ddiogel ac yn iach.”

Dywed Dr Llinos Roberts, Meddyg Teulu ym Meddygfa Tymbl: “Peidiwch â gohirio unrhyw beth. Mae meddygfeydd lleol ar agor ac rydym yma i gynnig cyngor meddygol ac ymgynghori â chleifion, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. ”

Mae Heddwyn Davies yn optometrydd yn Optegwyr Evans & Hughes, sydd â changhennau yn Llanymddyfri, Llandeilo, Llanbedr Pont Steffan a Rhydaman. Meddai: “Mae archwiliadau rheolaidd yn bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i fwynhau’r olwg orau.”

Dywedodd Dr Guto Griffiths, Deintydd ym Mhractis Deintyddol Brynteg yn Nhinbych-y-pysgod: “Er ein bod yn parhau i weithio ein ffordd trwy’r ôl-groniad o archwiliadau, rydym ar agor, ynghyd â’r holl feddygfeydd deintyddol eraill, os oes gan gleifion unrhyw fath o broblem ddeintyddol.”

Ychwanegodd Richard Evans, Fferyllydd Cymunedol o Landysul: “Er ein bod wedi gorfod addasu ein gwasanaethau yn ystod y pandemig, rydym wastad wedi bod ar agor a byddwn yn parhau i ddarparu meddyginiaeth o dan y cynllun anhwylderau cyffredin neu gyflenwi meddyginiaeth mewn argyfwng.”

Felly mae ein gwasanaethau Gofal Sylfaenol yma i chi pe bai angen i chi gael mynediad atynt ar yr adeg hon.

Helpwch ni i’ch helpu chi:

• Os nad ydych yn siŵr beth yw’r ffordd orau o gael triniaeth, gwiriwch ar-lein: https://111.wales.nhs.uk/ neu ffoniwch 111 i gael cyngor.

• Os ydych chi’n poeni am symptomau parhaus, cysylltwch â’ch meddyg teulu.

• Cofiwch os oes gennych symptomau COVID-19, ni waeth pa mor ysgafn, hunan-ynyswch ac archebwch brawf trwy borth archebu’r DU.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.