14 C
Llanelli
Monday, October 26, 2026
Home Newyddion Lle Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd

Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd

0
450
Welsh Governments Minister forEconomy Transport and North Wales Ken Skates
Welsh Governments Minister forEconomy Transport and North Wales Ken Skates

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo’r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i’w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.

Bydd yr ymgyrch ‘Yn Gefn i Chi’ yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a’r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.

Mae amrediad o gymorth ar gael, fel cymorth i ddatblygu galluoedd staff a chyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi. Bydd hyn yn helpu busnesau i symud ymlaen drwy bandemig y coronafeirws a ffynnu yn y dyfodol.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, fod yr ymgyrch ‘Yn Gefn i Chi’ yn hanfodol i gefnogi Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon. Y nod yw cryfhau ac ailadeiladu economi Cymru i sicrhau ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed.

Mae Ymrwymiad COVID Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei ategu gan hwb cyllid gwerth £40 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn rhan allweddol o’r cymorth rydym yn ei gynnig i helpu unrhyw un sydd am gael gwaith, yn ceisio ailhyfforddi, neu am ddechrau ei fusnes ei hun.

Wrth siarad am yr ymgyrch, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Mae’r 12 mis diwethaf wedi rhoi pwysau anhygoel ar ein pobl a’n busnesau. Ers dechrau’r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu miloedd o fusnesau a swyddi yng Nghymru drwy becyn o gymorth ariannol gwerth mwy na £2 biliwn. Dyma’r pecyn cymorth mwyaf hael sy’n cael ei gynnig unrhyw le yn y DU.

“Rydyn ni’n gadarn yng nghornel busnesau, a bydd yr ymgyrch hon yn hanfodol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i’w helpu i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi heddiw ac yn y dyfodol.

“Bydd ein Hymrwymiad COVID hefyd yn darparu hyfforddiant am ddim ac â chymhorthdal a fydd yn galluogi cwmnïau i ddatblygu sgiliau’r gweithlu, ac mae cynghorwyr Busnes Cymru wrth law i roi cyngor arbenigol ar hyn i ddiwallu anghenion busnes unigol.

“Wrth inni barhau i ymdopi â’r cyfnod anodd ac ansicr hwn, byddwn ni’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i helpu ein busnesau a’n pobl, ond mae’n rhaid inni hefyd feddwl am yr hyn sy’n dod nesaf. Dyna pam rwyf wedi lansio ein Cenhadaeth newydd i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, sy’n cynnig optimistiaeth ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a’n cymunedau i lwyddo a ffynnu mewn economi fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.

“Drwy gydweithio, gallwn ni wir lwyddo i adfer ac ailadeiladu ein heconomi i sicrhau ei bod yn well ac yn fwy cadarn i bobl ledled Cymru.”

I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.