15.3 C
Llanelli
Wednesday, September 16, 2026
Home Government Gweithwyr SYG yn cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

Gweithwyr SYG yn cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines

0
476
sarah caul original
sarah caul original

Mae gweithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am eu gwasanaeth rhagorol yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Bu galw aruthrol am ddata cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae SYG wedi bod wrth wraidd hyn i gyd. O gynaeafu data symudedd Google ar y we i gyflwyno arolygon newydd fel Arolwg Heintiadau COVID-19, i gyhoeddi allbynnau rheolaidd yn olrhain marwolaethau.  Mae’r holl waith wedi bod yn hollbwysig.

Dyfarnwyd OBE i Myer Glickman am ei wasanaeth rhagorol ym maes Dadansoddi Iechyd dros yr 20 mlynedd diwethaf, a dyfarnwyd MBE i’w gydweithiwr Sarah Caul am chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ystadegau hollbwysig ar farwolaethau sydd eu hangen er mwyn helpu i fonitro a deall effaith COVID-19.

Gan longyfarch y gweithwyr, dywedodd yr Ystadegydd Gwladol Syr Ian Diamond: “Rwy’n falch iawn bod Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines wedi cydnabod pobl o SYG ac mae hyn yn dyst i ymroddiad, arloesedd a gwaith caled ein gweithwyr drwy gydol y cyfnod hwn.

“Mae COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom mewn rhyw ffordd, boed hynny drwy golli anwyliaid neu’r effaith y mae wedi’i chael ar ein hiechyd corfforol a meddyliol. Rwyf wedi bod yn falch iawn o’r gwaith y mae ein holl weithwyr wedi’i gyflawni drwy gydol y pandemig a’r gwaith y maent yn parhau i’w wneud.”

Myer Glickman OBE

Yn ystod ei 20 mlynedd gyda SYG, mae Myer wedi chwyldroi’r gwaith o ddadansoddi marwolaethau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi dylunio dulliau sydd wedi chwarae rhan bwysig wrth ein helpu i ddeall anghydraddoldebau a phatrymau marwolaeth. Ar ddechrau 2020, gwnaeth Myer gydnabod arwyddocâd cynyddol y coronafeirws (COVID-19) cyn i’r pandemig gyrraedd y Deyrnas Unedig. Sicrhaodd fod systemau, gweithdrefnau a chynlluniau wrth gefn ar waith fel y gallai prosesau dadansoddi iechyd barhau, a defnyddiodd ei arbenigedd i ddylunio a darparu dadansoddiad marwolaethau COVID-19 o ansawdd uchel a helpodd i arwain ymateb y llywodraeth.

Dywedodd Myer, sy’n 58 oed o Bont-y-pŵl: “Mae’n fraint derbyn y wobr hon ond, mewn gwirionedd, mae hyn yn cydnabod y gwaith pwysig iawn y mae’r tîm cyfan wedi’i wneud yn ystod cyfnod digynsail. Bu’n rhaid i ni weithio dan bwysau a gydag effaith genedlaethol uniongyrchol, nad yw’r un ohonom erioed wedi’i phrofi o’r blaen, ac rydym wedi gwneud hynny gyda’n gilydd.”

Bu galw aruthrol am ddata cyhoeddus yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae’r pennaeth dadansoddi marwolaethau, Sarah Caul, wedi bod wrth wraidd hyn, gan arwain set ddata wythnosol nad oedd neb yn gwybod llawer amdani a ddaeth yn un o’r dogfennau pwysicaf ac a ddefnyddiwyd fwyaf i olrhain marwolaethau drwy gydol y pandemig.

Dywedodd Sarah, sy’n 30 oed o Gaerdydd: “Mae’n fraint derbyn y wobr hon ac rwyf wrth fy modd bod y gwaith rwyf i a fy nghydweithwyr wedi’i wneud yn ystod y 12 mis diwethaf yn cael ei gydnabod.

“Bu’n flwyddyn heriol, ond rwy’n falch fy mod i wedi bod yn rhan o gynhyrchu gwybodaeth mor bwysig er mwyn helpu i ddeall effaith COVID-19.”

Yn y cyfamser, mae eu cydweithiwr yn Hampshire, Sue Reeves, wedi cael MBE am ei gwasanaeth rhagorol ym maes anableddau, amrywiaeth a chynhwysiant.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.