16.8 C
Llanelli
Monday, June 29, 2026
Home Children Elusen yn rhybuddio bod plant wedi’u mabwysiadu yn wynebu argyfwng iechyd meddwl

Elusen yn rhybuddio bod plant wedi’u mabwysiadu yn wynebu argyfwng iechyd meddwl

0
551
download 2021 06 28T164443.156
download 2021 06 28T164443.156

A picture containing logo

Description automatically generated

Mae Adoption UK yn rhybuddio am argyfwng iechyd meddwl ymhlith rhai o blant mwyaf agored i niwed y DU, sy’n cael ei achosi gan fethiannau mewn system nad yw wedi’i sefydlu i ddiwallu eu hanghenion.

Mae adroddiad y Baromedr Mabwysiadu eleni yn datgelu bod dwy ran o dair (64%) o bobl wedi’u mabwysiadu 16+ mlwydd oed wedi ceisio cymorth gyda’u hiechyd meddwl, ac mae’r niferoedd yn codi.  Mae bron i hanner (46%) o bobl wedi’u mabwysiadu 16-25 mlwydd oed yn ymwneud â gwasanaethau iechyd meddwl yn 2020, o’i gymharu â’r ffigur cenedlaethol o 17%.* Ac eto, mae’r rhan fwyaf yn dweud nad ydynt wedi gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.

Roedd y rhan fwyaf o bobl ifanc oedd wedi’u mabwysiadu wedi dioddef camdriniaeth, esgeulustod neu drais yn eu blynyddoedd cynnar, gydag effeithiau parhaol ar berthnasoedd, dysgu ac iechyd, gan adael eu teuluoedd mabwysiadol i godi’r darnau pan nad oedd cymorth proffesiynol yn cael ei ddarparu.

Dywedodd Ann Bell, Cyfarwyddwr Adoption UK yng Nghymru: “Am y drydedd flwyddyn yn olynol, dywedodd dwy ran o dair o ymatebwyr y Baromedr eu bod yn wynebu ymdrech barhaus i gael cymorth. Yn rhy aml o lawer, mae’r teuluoedd hyn yn cael eu siomi gan system sy’n buddsoddi’n helaeth mewn lleoli plant i’w mabwysiadu, ac yna’n pylu i’r cefndir, yn aml gyda chanlyniadau ofnadwy i iechyd meddwl y plant a’u teuluoedd sy’n mabwysiadu.”

Mae canlyniadau’r arolwg yn amlygu canlyniadau methu â darparu cymorth cynnar a chyson i bobl ifanc wedi’u mabwysiadu. Roedd bron chwarter y bobl ifanc 16-25 mlwydd oed nad oedden nhw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar ddiwedd 2020 – mwy na dwywaith mor debygol â chyfartaleddau’r DU.  Mae cyfranogiad mewn gweithgareddau risg uchel a throseddol wedi cynyddu’n gyson ers y Baromedr Mabwysiadu cyntaf yn 2019. Mae problemau’n aml yn cael eu gwaethygu gan blant sy’n syrthio drwy’r craciau rhwng y gwasanaethau i blant a’r gwasanaethau i oedolion.  Dywedodd bron i dri chwarter y rhieni fod cefnogaeth eu plentyn wedi lleihau neu wedi dod i ben pan oeddent yn mynd yn rhy hen i wasanaethau i bobl ifanc.

Dywedodd Mimi Woods, 18 mlwydd oed:  “Rwy’n dioddef o salwch meddwl, sy’n gysylltiedig â thrawma yn fy ngorffennol. Digwyddodd hyn pan oeddwn yn ifanc iawn ond mae’n effeithio arnoch yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’n dod o deimlad o deimlo nad oes unrhyw un eich eisiau a heb le, neu gysylltiad emosiynol â neb.

“Cefais gyfarfod â CAMHS lle eglurais fy mod yn sâl iawn ond doeddwn i ddim yn gwybod pam roeddwn i’n gwneud yr hyn roeddwn i’n ei wneud. Doedd gen i ddim teimladau ac roeddwn i eisiau dod â fy mywyd i ben. Cefais fy rhoi ar feddyginiaeth ond pan oedden nhw’n hapus nad oeddwn i’n mynd i wneud unrhyw beth, daeth y cyswllt i ben ac nid wyf wedi clywed ganddynt ers hynny.

“Rwyf wedi sylweddoli’n ddiweddar ei fod i gyd yn gysylltiedig â mi’n teimlo ar goll ynof fi fy hun. Rwy’n rhan o grŵp pobl ifanc wedi’u mabwysiadu ac mae pawb yn y grŵp wedi dioddef trawma, iselder a meddyliau hunanladdol.”

Mae arolwg y Baromedr hefyd yn dangos bod cyswllt â theulu biolegol yn aml yn gysgod mawr yn ystod y glasoed ac fel oedolyn ifanc. Roedd 22% o bobl ifanc 13-18 mlwydd oed mewn cysylltiad uniongyrchol ag aelod o’r teulu biolegol y tu allan i unrhyw gytundeb ffurfiol. I rai, mae hyn yn arwain at ganlyniadau dinistriol i iechyd meddwl a sefydlogrwydd teuluol.

Pan fydd teuluoedd yn cael cymorth, mae eu hasesiadau o’i ansawdd a’r effaith ar eu teulu wedi cynyddu ar bob dangosydd ers y llynedd – cyflawniad sylweddol o ystyried y pandemig.  Mae profiadau mabwysiadwyr yng Nghymru wedi gwella ar gam cymeradwyo a pharu, ac ymhlith teuluoedd â phlant hŷn, oherwydd buddsoddiad mewn gwasanaethau mabwysiadu yn 2019.  Mae’r gronfa cymorth mabwysiadu covid brys yn Lloegr wedi cael ei chanmol yn eang gan deuluoedd.

Ychwanegodd Ann Bell: “Mae buddsoddiad diweddar mewn gwasanaethau mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru yn dechrau gwneud gwahaniaeth i deuluoedd sy’n mabwysiadu. Mae ymrwymiad i helpu pobl ifanc wedi’u mabwysiadu wrth iddynt nesáu at y newid i fod yn oedolion yn hanfodol os ydym am roi cyfle cyfartal mewn bywyd i’n plant mwyaf agored i niwed.”

Mae Adoption UK yn nodi cynllun chwe phwynt i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc wedi’u mabwysiadu. Mae’n cynnwys asesiadau amlddisgyblaethol a chynlluniau cymorth ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i leoli i’w fabwysiadu ac ymestyn gwasanaethau mabwysiadu i 26 mlwydd oed o leiaf.

Adoption fact file FINAL

Adoption Barometer 2021 – case studies FINAL


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here