17.1 C
Llanelli
Wednesday, September 2, 2026
Home hywel dda health board Meddygfa Trimsaran i groesawu cleifion yn ôl o 5 Gorffennaf

Meddygfa Trimsaran i groesawu cleifion yn ôl o 5 Gorffennaf

0
461
Sarn Surgery
Sarn Surgery

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gadarnhau ailagor Meddygfa Trimsaran yn dilyn ei ddefnyddio dros dro fel canolfan brechu COVID-19 a ffliw ar gyfer cleifion Meddygfa Minafon a Meddgyfa’r Sarn.

Caeodd y feddygfa dros dro y gwanwyn diwethaf ar ddechrau’r pandemig a chafodd gwasanaethau eu dargyfeirio i’r brif practis, Meddygfa Minafon.

Yn ystod y rhaglen frechu COVID-19, rhoddodd y feddygfa 6777 dos o frechlyn Astra-Zeneca Rhydychen i aelodau’r gymuned.

Ar ôl cwblhau’r grwpiau cymwys hynny a ddyrannwyd i’r meddygfeydd i frechu, mae’r bwrdd iechyd nawr yn edrych i adfer ystod o wasanaethau ym Meddygfa Trimsaran o ddydd Llun 5 Gorffennaf gan gynnwys:

• Apwyntiadau brys gan feddygon teulu (yn amodol ar frysbennu)

• Clinigau nyrsio ystafell driniaeth

• Sesiynau fflebotomi

• Clinigau bydwragedd

Bydd system brysbennu ffôn yn parhau ar gyfer y rhai sy’n gofyn am apwyntiad, gydag asesiadau’n cael eu cynnal lle bo hynny’n glinigol briodol ac yn ddiogel i wneud hynny. Pan fydd meddyg teulu yn asesu bod angen i glaf gael ei weld wyneb yn wyneb, trefnir hyn.

Mae pellhau cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb yn parhau i fod ar waith ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Mae nifer yr ymwelwyr yn y practis yn cael eu cadw i’r lleiafswm, a gofynnir i gleifion ddefnyddio’r blwch diogel wrth y fynedfa i ollwng ceisiadau presgripsiwn.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn y bydd gwasanaethau’n dychwelyd i Feddygfa Trimsaran a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

“Hoffwn hefyd ddiolch i gleifion am eu cydweithrediad yn ystod yr amser ansefydlog hwn; rwy’n gwerthfawrogi bod llawer o bobl wedi gorfod teithio i Feddygfa Minafon gyfagos i gael gwasanaethau hanfodol.

“Tra bod y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn dal i fod dan bwysau sylweddol, bydd y tîm yn Trimsaran yno i gleifion, gan ddarparu ymgynghoriadau a chyngor dros y ffôn a thrwy alwadau fideo, a gweld pobl wyneb yn wyneb lle bo hynny’n briodol.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.