12.7 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Charity Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian Scott Maynard

Elusennau Iechyd Hywel Dda ar godwr arian Scott Maynard

0
525
Scott Maynard picture
Scott Maynard picture

Mae’r hyfforddwr ffitrwydd a chyn-chwaraewr rygbi, Scott Maynard yn trefnu her redeg 24 awr i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.

Bydd dwsinau o aelodau o gampfa Scott, SM9 Fitness, sydd ym Mheniel, ger Caerfyrddin, yn ymuno ag ef ar gyfer y digwyddiad codi arian, a gynhelir ddydd Gwener 16 Gorffennaf a dydd Sadwrn 17 Gorffennaf.

Scott Maynard

Gan ddechrau am 9am ar y dydd Gwener, bydd aelodau’r gampfa yn rhedeg mewn cylch milltir o hyd o amgylch Peniel, o ddrws y gampfa ac yn ôl. Bydd o leiaf un aelod wrthi’n rhedeg yn ystod y 24 awr gyfan, nes y diwedd am 9am ar y bore Sadwrn.

Dywedodd Scott, 28: “Byddwn yn rhedeg i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod.

“Bydd rhwng 30 a 50 o aelodau’r gampfa, yn amrywio mewn oedran o bobl ifanc yn eu harddegau i bobl yn eu chwedegau, yn cymryd rhan yn yr her, a hynny mewn slotiau rhedeg 20 munud ar eu cyflymder eu hunain.

Scott Maynard

“Mae codi arian ar gyfer elusennau lleol yn bwysig i’r gymuned, yn enwedig ar ôl y 12 mis diwethaf.

“Yn ddiweddar, cafodd ffrind agos fabi, a oedd wedi cael gofal yn yr Uned Gofal Arbennig Babanod. Mae’r gampfa hefyd yn cynnal dosbarthiadau BabiFfit ar gyfer mamau newydd, ac maen nhw’n deall pwysigrwydd y gwasanaeth a ddarperir gan yr uned yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd Nicola Llewelyn, pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yr hoffai’r elusen ddiolch i Scott ac aelodau ei gampfa am eu cefnogaeth.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda, ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a gawn,” meddai Nicola. Os hoffech gyfrannu at ymgyrch codi arian Scott, ewch i Scott Maynard is fundraising for Hywel Dda Health Charities (justgiving.com).


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.