17.9 C
Llanelli
Sunday, September 13, 2026
Home Newyddion Lle “Llais cryf ac effeithiol ar ran y mudiad annibyniaeth ehangach”: Adam Price...

“Llais cryf ac effeithiol ar ran y mudiad annibyniaeth ehangach”: Adam Price yn talu teyrnged i Leanne Wood wrth iddi dderbyn enwebiad i gomisiwn cyfansoddiadol annibynnol

0
607
Adam Price
Adam Price

Wrth ymateb i benodiad Leanne Wood i’r Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol i ystyried dyfodol Cymru, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS,

“Hoffwn estyn fy niolch i Leanne Wood am dderbyn ei henwebiad i’r Comisiwn Cyfansoddiadol annibynnol ar ddyfodol Cymru’.

“Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yn llais cryf ac effeithiol ar ran y mudiad annibyniaeth ehangach. Bydd ei phŵer i ymgysylltu â phobl ledled Cymru ac ar draws cenedlaethau yn gaffaeliad enfawr ir Comisiwn wrth iddo geisio cael y sgwrs genedlaethol ehangaf bosibl ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Ar ei phenodiad, meddai Leanne Wood,

“Gyda’r Alban yn debygol o bennu ei dyfodol ei hun yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae hwn yn gyfle i bobl yng Nghymru gael y sgwrs fwyaf am ein dyfodol fel cenedl a gawsom erioed.

“Rwy’n falch o fod yn chwarae rhan fach yn hyn ac edrychaf ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â phobl yng Nghymru – gan sicrhau bod dyfodol Cymru yn parhau’n gadarn yn nwylo Cymru’.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.