8.9 C
Llanelli
Thursday, November 5, 2026
Home Newyddion Lle Academyddion o Brifysgol Abertawe’n defnyddio’r pandemig i gyflwyno gêm arloesol i ysgolion

Academyddion o Brifysgol Abertawe’n defnyddio’r pandemig i gyflwyno gêm arloesol i ysgolion

0
518
Cymraeg Call from expert 2
Cymraeg Call from expert 2

Mae academyddion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi defnyddio profiadau a dealltwriaeth o bandemig Covid-19 i ddatblygu gêm ryngweithiol ac arloesol.

Mae Trust the Experts , a ddarperir ar gyfer disgyblion rhwng 15 a 18 oed, yn dangos sut gall gwybodaeth arbenigol ddylanwadu ar brosesau penderfynu hollbwysig.

Mae’r chwaraewyr yn ymgymryd â rôl Prif Weinidog newydd ei ethol Aberdemig, gwlad ddychmygol yn Ewrop, sy’n darganfod bod pandemig byd-eang marwol yn digwydd.

Er mwyn gwneud penderfyniadau allweddol, megis a ddylid cau ffiniau’r wlad a beth yw’r ffordd orau o gyfathrebu â phoblogaeth y wlad, bydd y chwaraewyr yn cael cyngor gan amrywiaeth o academyddion o Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a fydd yn helpu i lywio eu meddylfryd.

Wrth i’r gêm fynd rhagddi, bydd chwaraewyr yn gweld sut mae eu penderfyniadau’n effeithio ar amrywiaeth o fetrigau, megis mynegai hapusrwydd y wlad, ymddiriedaeth yn y llywodraeth a chyflwr iechyd y genedl.

Ar ben myfyrio ar yr anawsterau gwleidyddol-gymdeithasol y mae arweinwyr y byd wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gêm wedi cael ei dylunio i helpu myfyrwyr i fagu sgiliau astudio allweddol, megis dadansoddi gwybodaeth anghyson o ffynonellau amrywiol.

Meddai Jen McBride, Rheolwr Prosiect Trust the Experts, sy’n dilyn cwrs MSc mewn Marchnata Strategol: “Mae’r gêm yn ffordd gyffrous ac arloesol o ennyn meddylfryd beirniadol a sgiliau dadansoddi disgyblion ysgol. Gobeithio hefyd y bydd yn agor eu llygaid ynghylch sut gall astudio’r dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol effeithio ar fywydau pobl, yn lleol ac yn fyd-eang.”

Datblygwyd Trust the Experts drwy gyllid grant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac fe’i crëwyd mewn cydweithrediad â Big Lemon, cwmni datblygu apiau yn ne Cymru.

Lansiwyd y gêm eisoes ar ffurf rhagolwg mewn nifer bach o ysgolion partner, a chafwyd adborth cadarnhaol gan athrawon a disgyblion.

Meddai un ysgol: “Mae’r gêm wedi cael ei dylunio’n wych ac mae ganddi ryngwyneb sy’n ei gwneud

hi’n hawdd deall a chyflawni tasgau. Mae’n adnodd effeithiol iawn i fagu sgiliau penderfynu.”

Drwy ddatblygu’r fenter arloesol hon, mae’r Brifysgol yn ysbrydoli disgyblion ysgol y genhedlaeth nesaf ac yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.

Meddai Dr Joanne Berry, un o brif academyddion tîm Trust the Experts ac Athro Cysylltiol yn y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg: “Mae’r prosiect wedi bod yn gyfle gwych i rai o fyfyrwyr disgleiriaf a gorau’r Brifysgol, gan eu galluogi i gael profiad dilys o amgylchedd gwaith go iawn, ond mewn lleoliad croesawgar a diogel prifysgol.”

Meddai Sophie Legg, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata’r Prosiect, sy’n dilyn cwrs BSc mewn Rheoli Busnes (Marchnata): “Mae gweithio ar y prosiect hwn wedi bod yn gyfle amhrisiadwy, fel rhan o’m gweithgareddau allgyrsiol, i gael profiad o lunio strategaethau cyfathrebu ar gyfer marchnata sydd wedi fy ngalluogi i fagu hyder yn fy sgiliau marchnata.”

Mae’r gyfadran hefyd yn datblygu pecyn cynhwysfawr i athrawon, gan roi cyngor i athrawon ynghylch sut i ymgorffori’r gêm yn eu cwricwla.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.