9.2 C
Llanelli
Sunday, November 22, 2026
Home hywel dda health board Datganiad o Sefyllfa Hywel Dda 30 Rhagfyr 2021

Datganiad o Sefyllfa Hywel Dda 30 Rhagfyr 2021

0
607
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0016 1 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0016 1 scaled

Mae ein staff yn gweithio’n ddiflino bob dydd yn wyneb pwysau a heriau ddigyffelyb. Maent yn parhau i fynd yr ail gam i flaenoriaethu gofal a thriniaeth cleifion sydd angeb gofal brys. Rydym yn hynod falch o’r ymdrech y mae ein gweithlu cyfan yn parhau i’w wneud ar y cyd. Yn anffodus, gallwn gadarnhau bod y don bresennol o heintiau Covid-19 yn dechrau cael effaith negyddol ddifrifol, gydag absenoldebau staff yn sylweddol uwch na’r arfer ar draws ysbytai, gwasanaethau cymunedol a gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygfeydd. Mae hyn yn golygu efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach na’r arfer, ond mae’r holl wasanaethau’n parhau i flaenoriaethu yn ôl angen clinigol. Rydym yn gofyn i’n cymunedau, cleifion, ymwelwyr a’r cyhoedd i ddilyn y canllawiau isod:

  • Cofiwch fod cefnogaeth ar gael i chi ofalu amdanoch chi’ch hun pan fo hynny’n briodol, er enghraifft yn https://111.wales.nhs.uk/livewell/caringforyourself/ a thrwy’r gwiriwr symptomau ar-lein.
  • Gall ein fferyllfeydd cymunedol ddarparu rhywfaint o ofal galw-heibio, a rhai triniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin, dewch o hyd i’ch gwasanaeth agosaf yma: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/services-and-teams/pharmacy/; yn ogystal â’n hunedau mân anafiadau: https://hduhb.nhs.wales/healthcare/hospitals-and-centres/minor-injuries-units/
  • Os oes gennych argyfwng difrifol sy’n peryglu bywyd, parhewch i ffonio 999.
  • Os yw’n fater brys (ond nid yn argyfwng), trowch at wiriwr symptomau GIG 111 Cymru, deialwch 111, neu ceisiwch ofal brys trwy eich meddyg teulu.
  • Os oes gennych berthynas neu rywun annwyl yn yr ysbyty sy’n ffit yn feddygol ond sy’n aros i gael ei ryddhau, efallai y gallwch ein helpu trwy ddarparu gofal tymor byr neu ystyried lleoliadau dros dro mewn cartref gofal.
  • Mae ein rhaglenni brechu ar gyfer COVID-19 a’r ffliw yn parhau ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen ac yn parhau i fod yn rhan allweddol o’n hamddiffyniad yn erbyn y firysau hyn. Mae ein holl ganolfannau brechu torfol bellach yn cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer brechlynnau cyntaf, ail, trydydd ac atgyfnerthu COVID-19 ar gyfer y rhai sy’n gymwys – ewch i’r ganolfan sy’n lleol i chi os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny. I gael gwybodaeth am gymhwysedd ac amseroedd agor, ewch i https://hduhb.nhs.wales/healthcare/covid-19-information/covid-19-vaccination-programme/
  • Dilynwch ganllawiau Llywodraeth Cymru a chanllawiau lleol.
  • Gweithiwch o adref pryd bynnag y gallwch os yw hynny’n briodol.
  • Byddwch yn wyliadwrus gydag arferion hylendid da er mwyn osgoi lledaenu haint yn ein cymunedau.
  • Mae awyru da yn bwysig os ydych dan do a chofiwch fod bod yn yr awyr agored yn fwy diogel lle bo hynny’n bosibl.
  • Cadwch bellter diogel.
  • Cofiwch wneud hunan-brawf llif ochrol yn enwedig cyn mynd i sefyllfaoedd risg uwch, megis treulio amser mewn lleoedd gorlawn neu gaeedig; ymweld â phobl sydd â risg uwch o salwch difrifol o COVID-19, neu deithio i ardaloedd eraill yng Nghymru neu’r DU.
  • Gellir cael citiau hunan-brawf llif ochrol trwy archebu ar-lein i’w danfon i’ch cartref https://www.gov.uk/order-coronavirus-rapid-lateral-flow-tests neu trwy gasglu’n lleol o’r mwyafrif o fferyllfeydd cymunedol: Gwiriwch yma am y fferyllfeydd yn eich ardal chi sy’n eu darparu Cofiwch roi gwybod am ganlyniadau eich profion, negyddol neu gadarnhaol, ar borth Llywodraeth y DU yma https://www.gov.uk/report-covid19-result/ Os yw’n bositif, peidiwch â mentro allan. Dylech hunan-ynysu a threfnu prawf PCR – bwciwch yma https://gov.wales/get-tested-coronavirus-covid-19 neu ffoniwch 119. O.N. rydym yn ymwybodol bod galw digynsail cenedlaethol am brofion PCR a llif ochrol. Ar adegau, i gefnogi dosbarthiad ac aros o fewn y capasiti yn y labordai, efallai y bydd seibiannau dros dro wrth archebu ac efallai na fyddwch yn gallu cael y profion sydd eu hangen arnoch o gov.uk. Mae’r Llywodraeth yn eich cynghori i barhau i wirio bob ychydig oriau wrth i fwy o brofion PCR a llif ochrol ddod ar gael bob dydd.

Os oes angen i chi ddod i’n hysbytai ar unrhyw adeg, rhaid i chi wneud y canlynol:

  • Cynnal prawf llif ochrol gartref a chael canlyniad negyddol o’r prawf hwnnw cyn teithio i’r ysbyty.
  • Gwisgo mwgwd cyn mynd i mewn i’r ysbyty;
  • Sicrhau eich bod yn cadw pellter o ddau fetr wrth eraill;
  • Golchi eich dwylo yn rheolaidd;

Os oes angen i chi ymweld â rhywun yn yr ysbyty, cofiwch fod yn rhaid trefnu hyn ymlaen llaw gyda phrif nyrs y ward. Mae mwy o wybodaeth am ymweld ag ysbytai ar gael ar ein gwefan ond nodwch y gall hyn newid ar fyr rybudd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.