Mae dau ddyn o Gasnewydd a oedd yn rhedeg ymgyrch llinellau cyffuriau ac yn gwerthu crac cocĂȘn a heroin yn Llanelli wediâu carcharu.
Ar 19 Ionawr, arestiodd swyddogion o DĂźm Plismona Achosion Difrifol Sir Gaerfyrddin Heddlu Dyfed-Powys Joshua Aspell, 25 oed, o Fryn Bevan, Casnewydd, a Michael Brace, 30 oed, sydd heb gartref sefydlog, ar ĂŽl gweithredu gwarant gyffuriau mewn fflat yng Nghlos Granby, Llanelli.
Wrth chwilioâr eiddo, a gafodd ei feddiannu drwy gogio, daeth swyddogion o hyd y ddau lapiad maint pĂȘl golff mewn haenau glynu a oedd yn cynnwys deliau llai, a arweiniodd at arestioâr ddau ddyn.
Daeth swyddogion o hyd i dros ÂŁ970 mewn arian parod, tafol a ffĂŽn symudol Ăą rhif y gwyddid ei fod yn cael ei ddefnyddioân aml ar gyfer cyflenwi cyffuriau yn yr ardal.
Yn ddiweddarach, datgelodd profion bod un oâr pecynnauân cynnwys heroin a bod y llall yn cynnwys crac cocĂȘn.
Pan oedd yn y ddalfa, y diwrnod canlynol, cadarnhaodd Brace, a oedd dan wyliadwriaeth, ei fod wedi rhoi rhywfaint o gyffuriau i fyny ei anws. Ar ĂŽl cael gafael arnynt, canfu mai heroin a chrac cocĂȘn oedd y cyffuriau hyn.
Roedd gan y cyffuriau Dosbarth A a atafaelwyd werth posibl o tua ÂŁ3,770 a ÂŁ4,220 ar y stryd, fodd bynnag, galluogodd tystiolaeth, gan gynnwys cofnodion ffĂŽn, yr heddlu i ddangos bod eu gweithgarwch gwerthu cyffuriauân mynd ymhell tu hwnt i hyn.
Pleidiodd Brace ac Aspell yn ddieuog iâr cyhuddiadau cyflenwi cyffuriau yn eu gwrandawiad cyntaf yn y llys ynadon, ond wediâu hwynebu Ăąâr dystiolaeth a gasglwyd gan swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys, plediodd y ddauân euog yn llys y goron.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: âMae hwn yn ganlyniad cadarnhaol iân heddlu wrth inni barhau i aflonyddu ar ymgyrchoedd llinellau cyffuriau yn ein hardal.
âArestiwyd Aspell a Brace ym mis Ionawr, ac wythnosauân ddiweddarach, maen nhwân cychwyn dedfrydau o garchar ar ĂŽl treulioâr amser ers iddynt gael eu harestio ar remand yn y ddalfa.
âMaeâr ddau ddyn hyn o ardal Casnewydd, ac nid oes gan yr un ohonynt gysylltiad Ăą Llanelli, felly daethon nhw draw fan hyn gan feddwl am ddim byd ond lledaenu diflastod drwy werthu cyffuriau.
âDrwy waith plismona da, roedd modd inni roi terfyn ar hyn.
âI gychwyn, pleidiodd Aspell a Brace yn ddieuog, ond oherwydd yr holl dystiolaeth yn eu herbyn, newidiodd y ddau eu pledion i euog.â
Roeddent yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 24 Chwefror pan ddedfrydwyd Aspell i bum mlynedd ac 11 mis o garchar a dedfrydwyd Brace i bedair blynedd o garchar.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle