12.2 C
Llanelli
Tuesday, October 27, 2026
Home hywel dda health board Wythnos y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol...

Wythnos y Lluoedd Arfog yn cael ei nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

0
482
Bench unveiling June 2022
Bench unveiling June 2022

Mae mainc goffa wedi’i dadorchuddio ym Mharc Dewi Sant, Caerfyrddin yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog i gydnabod gwerth personél sy’n gwasanaethu, gwirfoddolwyr cadetiaid sy’n oedolion, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Y thema eleni yw Cyfarch Ein Lluoedd, gyda 2022 yn nodi 40 mlynedd ers rhyddhau Ynysoedd y Falkland, a bydd ymwelwyr ag Ysbyty Bronglais a Ysbyty Glangwili hefyd yn gweld baner y Lluoedd Arfog yn chwifio trwy gydol yr wythnos.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n gyfeillgar i’r lluoedd arfog ar ôl arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2016 ac ennill gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn ym mis Gorffennaf 2021.

Wrth siarad yn y seremoni ddadorchuddio, dywedodd Delyth Raynsford, Aelod Annibynnol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n wych gweld llawer o’n staff yma heddiw sydd wedi gwasanaethu neu’n parhau i wasanaethu yn ein Lluoedd Arfog.

“Rydym yn cydnabod y wybodaeth, y sgiliau trosglwyddadwy a’r agwedd adeiladol a chadarnhaol y mae personél sy’n gwasanaethu, gwirfoddolwyr cadetiaid sy’n oedolion, milwyr wrth gefn, cyn-filwyr a theuluoedd milwrol yn cyfrannu at ein gwasanaeth iechyd.

“Rydym yn gweithio’n barhaus i wella ein polisïau gweithlu i ddenu a chefnogi recriwtio a chadw gweithlu o gymuned y Lluoedd Arfog.

“Mae hyn yn cynnwys deg diwrnod ychwanegol o wyliau â thâl i filwyr wrth gefn, gan hyrwyddo ein hymrwymiad i’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr a hyrwyddo manteision cefnogi aelodau o gymuned y lluoedd arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwr.”

Yn dilyn 30 mlynedd o wasanaeth yn y Fyddin Brydeinig, ymunodd Lisa Tasker â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn 2020 fel cynorthwyydd personol i’r dirprwy gyfarwyddwr a chyfarwyddwr cyllid cynorthwyol. Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Lisa: “Dyma fy swydd gyntaf ar ôl y fyddin ac mae rhwydwaith staff y lluoedd arfog yn ffordd dda o gysylltu â chydweithwyr ar draws y bwrdd iechyd sydd â’r un profiadau.

“Mae dod o gefndir milwrol wedi bod yn gromlin ddysgu i fy nghydweithwyr yn ogystal â mi fy hun ond mae pawb wedi bod yn groesawgar iawn. Mae’n hyfryd cael y fainc hon i gydnabod y gwerth a’r cyfraniad a wnawn i’r GIG.”

Mae’r fainc wedi’i hariannu gan roddion elusennol i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y Bwrdd Iechyd.

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth yr elusen: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu ariannu’r fainc sy’n cynrychioli pa mor werthfawr yw cymuned y Lluoedd Arfog gan y Bwrdd Iechyd.

“Rydym yn gobeithio y bydd yn darparu ffocws ar gyfer myfyrio a choffáu yn y dyfodol.”

Dylai unrhyw un sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, a hoffai ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan gynnwys mynediad at GIG Cymru i Gyn-filwyr, gwasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol, ymweld â: biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/cyfamod-y-lluoedd-arfog/

Mae Rhwydwaith Staff y Lluoedd Arfog hefyd yn agored i unrhyw aelod o gymuned y lluoedd arfog sy’n gweithio yn Hywel Dda ac os hoffai unrhyw staff gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith, gallant gysylltu â StrategicPartnerships.HDD@wales.nhs.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.