15.5 C
Llanelli
Saturday, July 4, 2026
Home Events Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn dychwelyd i Gastell Caeriw

Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn dychwelyd i Gastell Caeriw

0
441
SMALLCarew Castle Sandy Bear Families scaled 1
SMALLCarew Castle Sandy Bear Families scaled 1

Bydd Castell Caeriw yn cynnal Diwrnod Hwyl Sandy Bear ddydd Sul am yr ail flwyddyn yn olynol.

Nod y Diwrnod Hwyl yw codi proffil yr elusen profedigaeth i blant, ynghyd â chodi rhywfaint o arian y mae mawr ei angen i gefnogi eu gwaith hanfodol.

Bydd rhaglen lawn o weithgareddau hwyliog yn cael ei chynnal yn atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod y dydd, gyda rhywbeth sy’n addas i bobl o bob oedran a diddordebau. Bydd yr adloniant yn cynnwys gweithdai cerddoriaeth a dawns gyda Tickle Tunes, adrodd straeon, helfa tedis, cerbydau gwasanaeth brys, cerddoriaeth fyw gan Gôr Vision Arts a Samba Doc, peintio wynebau, ffair hen ffasiwn a swigod enfawr. Bydd hefyd cyfle i gael tynnu llun gyda Sandy Bear ei hun, a helpu i godi arian ar gyfer yr achos arbennig hwn.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Roedd Diwrnod Hwyl Sandy Bear yng Nghaeriw y llynedd yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 100 o blant a’u teuluoedd yn bresennol. Rydyn ni mor falch o allu cefnogi’r elusen ysbrydoledig hon, ac rydyn ni’n gobeithio gweithio gyda nhw eto yn y dyfodol.”

Codir tâl mynediad arferol ar gyfer y Castell, a bydd Ystafell De Nest ar agor ar gyfer detholiad o ginio ysgafn a danteithion blasus rhwng 10.30am a 4pm.

Bydd Diwrnod Hwyl Sandy Bear yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw ddydd Sul 24 Gorffennaf rhwng 10am a 4pm, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol Sandy Bear ar Facebook @sandybearbereavement, Twitter @SandyBearPembs ac ar LinkedIn.

I gael rhagor o wybodaeth am Sandy Bear a’r gwaith mae’r elusen yn ei wneud i wella a chryfhau iechyd a llesiant emosiynol pobl ifanc 0-18 oed (a’u teuluoedd) sydd wedi profi marwolaeth rhywun annwyl, ewch i www.sandybear.co.uk.

I gael rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghastell Caeriw a lleoliadau eraill ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod yr haf, ewch i www.arfordirpenfro/cymru/digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.