9.9 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home Food Diwydiant bwyd a diod Cymru’n parhau i ffynnu

Diwydiant bwyd a diod Cymru’n parhau i ffynnu

0
326
Food image 1
Food image 1

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod diwydiant bwyd a diod Cymru’n parhau i fynd o nerth i nerth wrth i’r ffigyrau diweddaraf ddangos bod trosiant cadwyni cyflenwi’r sector wedi cynyddu i £23 biliwn yn 2021.

Dyma gynnydd o 2.9% o’r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020.

Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy’n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn i £5.4bn.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd yn gynharach eleni bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i helpu busnesau yn y sector drwy amryfal gynlluniau cymorth sy’n darparu mewnwelediad a gwybodaeth am y farchnad, buddsoddi, cefnogaeth dechnegol, cefnogaeth allforio a phwyslais cryf ar rwydweithio busnes.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’r ffigyrau yma’n dangos ymrwymiad ac awydd busnesau bwyd a diod o Gymru i lwyddo, er gwaethaf y sefyllfa economaidd anodd maen nhw’n ei hwynebu.

“Rwy’n falch iawn o’r gwytnwch a’r mentergarwch y mae busnesau yn eu dangos wrth adfer ar ôl y pandemig a goresgyn heriau lluosog yn y gadwyn gyflenwi.

“Mae busnesau arloesol Cymru yn arwain o fewn y sector, ac mae’r ffaith eu bod yn ennill gwobrau’n gyson yn tystio i hyn.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru hefyd yn hollbwysig a bydd hyn yn parhau wrth i ni helpu busnes i gyflawni hyd eithaf eu gallu.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.