10.4 C
Llanelli
Friday, October 30, 2026
Home Newyddion Lle Datganiad Ysgrifenedig: Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

Datganiad Ysgrifenedig: Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

0
406
news thumb lesley griffiths
news thumb lesley griffiths

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Ar 27 Hydref 2021, cadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Lloegr achos o Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI), H5N1, mewn canolfan achub adar gwyllt yn Swydd Gaerwrangon yn Lloegr. Ers hynny, parhawyd i gael achosion o ffliw’r adar mewn dofednod ac adar cadw a gwelwyd y feirws hefyd mewn adar gwyllt. Cafodd cyfanswm o 152 eiddo ym Mhrydain Fawr, saith yng Nghymru, eu heintio â’r HPAI rhwng Hydref 2021 a Medi 2022, gan ei wneud yr achos hiraf a mwyaf o’r feirws.

Cafwyd cynnydd yn yr achosion yn Lloegr yn ddiweddar, gyda thros 35 o achosion wedi’u cadarnhau mewn adar cadw ers 1 Hydref. Mae’r risg o’i drosglwyddo gan adar gwyllt wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ ac mae’r risg o heintio dofednod yn y DU wedi codi o ‘ganolig’ i ‘uchel’ pan fo lefel y bioddiogelwch yn annigonol, ac o ‘isel’ i ‘ganolig’ lle ceir mesurau bioddiogelwch llym. Mae mesurau bioddiogelwch da yn hanfodol i gadw adar yn ddiogel rhag y feirws hynod heintus hwn.

Fel mesur i’w atal, ac fel ymateb i’r lefelau risg uchel ac i leihau’r risg o heintio dofednod ac adar caeth eraill, rwy’n datgan bod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006. Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 12:00 ar 17 Hydref 2022 ymlaen.

Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

• Cadw adar cadw oddi ar dir y gwyddys ei fod yn cael ei ddefnyddio gan adar dŵr gwyllt neu ei halogi gan eu tail neu eu pluf neu lle ceir risg uchel i hynny ddigwydd
• Sicrhau nad yw’r ardaloedd lle mae’r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
• Bwydo a dyfrio’ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt;
• Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
• Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
• Sicrhau nad yw’r sarn (deunydd gwely), offer, dillad a phopeth arall sy’n cael dod i’r mannau lle cedwir yr adar wedi’u halogi, boed uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan HPAI, sy’n cael ei ledaenu’n bennaf gan dail adar
• Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill.

Mae’r gofynion hyn yn berthnasol i bob aderyn cadw, gan gynnwys heidiau bach o lai na 50 o adar.

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.

Bydd y Parth Atal Ffliw Adar yn parhau tan bod y risg yn gostwng i lefel sy’n dweud wrthym nad oes ei angen mwyach. Bydd y Parth yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gellir newid ei ffiniau mewn ymateb i ddatblygiad epidemig HPAI.

Rwy’n credu bod y mesurau yn y Parth Atal hwn yn gymesur i lefel y risg rydym yn ei hwynebu. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i ddiogelu’n diwydiant dofednod, adar cadw eraill, iechyd y cyhoedd, ein cadwyni cyflenwi bwyd a lles ceidwaid adar yng Nghymru.

Mae pob un ohonom yn gyfrifol am atal clefydau a diogelu iechyd ein haid genedlaethol yng Nghymru. Bydd angen i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o’r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon.

Nid yw mesurau i gadw adar mewn siediau’n cael eu gwneud yn orfodol o dan ofynion y Parth Atal hwn. Mesurau bioddiogelwch da a chadarn yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag pob clefyd anifail, ac mae hwn yn amser da i bawb adolygu ei arferion bioddiogelwch ac ystyried beth arall y gellid ei wneud. Y gofyniad lleiaf yw’r amodau hyn yn y Parth Atal a rhaid i bawb sy’n cadw adar gydymffurfio â nhw. Mae’n bosibl y bydd ceidwaid adar yn penderfynu bod angen cadw eu heidiau mewn siediau ar yr adeg hon i’w diogelu, ac nid gwneud hynny’n orfodol wedi’i ddiystyru fel mesur ychwanegol y gellir ei gyflwyno gan y Llywodraeth yn nes ymlaen wrth inni barhau i adolygu’r clefyd a’i ddeall yn well wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Rwy’n parhau i annog pawb sy’n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i gofrestru’u hadar gyda’r APHA. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol i geidwaid sydd â mwy na 50 o adar ac rydym yn ei argymell yn gyfer i’r rheini sy’n cadw llai. Bydd hynny’n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy’r e-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw’n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl.

Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.