11 C
Llanelli
Wednesday, October 21, 2026
Home Charity Staff y feithrinfa yn dringo Cadair Idris ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

Staff y feithrinfa yn dringo Cadair Idris ar gyfer Apêl Cemo Bronglais

0
371
Gogerddan Nursery picture 1 group at the summit 1
Gogerddan Nursery picture 1 group at the summit 1

Waw! Da iawn i 24 o staff a ffrindiau o Ofal Plant Gogerddan a ddringodd Cadair Idris ar gyfer Apêl Cemo Bronglais ar ôl i un o’u cydweithwyr gael diagnosis o ganser y fron.

Mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr Emma Healy a’i staff wedi codi mwy na £2,000 i ddweud diolch am y gofal y mae eu cydweithiwr Jacqueline Walters yn ei dderbyn yn Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Bronglais. Ac nid yw’n rhy hwyr i gyfrannu https://www.justgiving.com/GogerddanChildcare22

Gogerddan-Nursery-Ted-makes-it-to-the-top

Dywedodd Emma, y mae ei meithrinfa ym Mhenrhyn-coch: “Tîm Gogerddan wnaeth e!

Diwrnod gwych yn dringo Cadair Idris i godi arian at Apêl Cemo Bronglais, wedi ein ffarwelio gan Jacqueline hyfryd a roddodd y cymhelliant i ni ac a’n hatgoffodd pam yr oeddem yn ei wneud.

“Mor falch o bawb; roedd yn ddringfa anodd ond wrth gefnogi a helpu ein gilydd fe wnaethom ni! Aeth un grŵp chwe milltir i’r llyn ac un yr 11 milltir lawn i’r brig!

“Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn ac wedi anfon negeseuon, rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. Diolch i Tesco am gyfrannu byrbrydau a diodydd, ac i Jade yn Wild Mountain Instruction a Kieran am fod y tywyswyr mwyaf hyfryd, cymwynasgar ac amyneddgar.”

Ychwanegodd Emma: “Roedden ni eisiau cefnogi’r Apêl oherwydd bod un o’n haelodau staff, Jacqueline Walters, yn derbyn triniaeth yn yr uned ddydd cemotherapi ar hyn o bryd ac mae hi’n gweld yn uniongyrchol sut mae angen uned newydd a’r effaith y bydd yn ei chael.”

Gogerddan Nursery -Jacqueline cheering the walkers off

Cafodd Jacqueline, 51, sy’n nyrs feithrin yn y ganolfan gofal plant ac yn byw ym Mronant, ddiagnosis o ganser y fron ym mis Ebrill ac ar ôl llawdriniaeth mae bellach yn derbyn cemotherapi yn yr uned.

Meddai: “Mae fy ngŵr Darryl a minnau mor falch o’r holl staff a hoffem ddiolch iddynt o waelod ein calonnau am eu cefnogaeth. Fe wnes i noddi un o fy nhedi bêrs, Idris, i fynd ar yr heic gyda nhw ac roedd yn wych gweld llun ohono ar y copa.”

Gogerddan Nursery -group at the lake

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym wrth ein bodd yn adrodd bod yr Apêl bellach wedi pasio ei tharged. Fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol, rydym yn rhagweld y bydd costau adeiladu yn cynyddu. Bydd pob ceiniog a godir, gan gynnwys rhoddion yn y dyfodol, felly yn mynd yn uniongyrchol i gronfa’r Apêl, gydag unrhyw arian dros ben yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhai yr effeithir arnynt gan ganser ar draws Ceredigion a chanolbarth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar i Emma, Jacqueline a staff y feithrinfa am eu cefnogaeth ac i bawb arall sydd wedi cyfrannu i’n helpu i gyrraedd ein targed.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl ewch i: www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.