12.1 C
Llanelli
Friday, October 30, 2026
Home Newyddion Lle Ymchwilwyr yn datgelu sut gall yr economi sylfaenol hybu ffyniant Cymru

Ymchwilwyr yn datgelu sut gall yr economi sylfaenol hybu ffyniant Cymru

0
475
Great Hall at Swansea University Bay Campus
Great Hall at Swansea University Bay Campus

Mae ymchwil newydd sy’n archwilio sut y gellir cefnogi’r economi sylfaenol yng Nghymru yn helpu i lywio polisi’r llywodraeth ar gyfer y dyfodol.

Mae’r economi sylfaenol yn darparu nwyddau a gwasanaethau pob dydd rydym i gyd yn dibynnu arnynt i sicrhau ein hiechyd a’n lles. Mae gwasanaethau gofal ac iechyd, bwyd, tai, ynni, adeiladu, twristiaeth a manwerthwyr ar y stryd fawr i gyd yn enghreifftiau o’r economi sylfaenol.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, A Scoping and Feasibility Study for a New Foundational Economy Academy in Wales, gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Canol Sir Gaerhirfryn. Cafodd ei chanfyddiadau eu cynnwys yn y datganiad cabinet diweddaraf gan Weinidog Economi Cymru, Vaughan Gething.

Mae’r ymchwil sy’n canolbwyntio ar gymorth i’r economi sylfaenol yng Nghymru, yn archwilio sut i wella’n effeithiol allu ymarferwyr gwasanaeth o ran yr economi sylfaenol, a sut i ddysgu gwersi gan fodel clodadwy Preston – sy’n ganllaw ar gyfer creu cyfoeth cymunedol.

Meddai arweinydd y prosiect Dr Gary Walpole, o Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe: “Yn hanesyddol, cyflogaeth technoleg isel a chyflogau isel sydd wedi bod yn nodweddiadol o’r economi sylfaenol. Mae’r astudiaeth yn awgrymu y bydd gweithredu egwyddorion yr economi sylfaenol yn galluogi sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus i ategu datblygiad rhanbarthol a chenedlaethol (Cymru) y sector hwn a chadw cyfran uwch o gyfoeth yng Nghymru.”

Meddai Mr Gething: “Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth well i ni o allu cyfredol yr economi sylfaenol ar draws y sector cyhoeddus ac agweddau tuag at fabwysiadu’r economi sylfaenol. Mae hyn yn helpu i lunio ein rhaglen galluoedd ar gyfer yr economi sylfaenol i sicrhau ein bod yn darparu’r offer a’r cymorth cywir i ymarferwyr fel y gall sectorau economi sylfaenol cryf a bywiog gael eu meithrin a’u cyrchu, gan wella lles i ddinasyddion Cymru.”

Mae canlyniadau’r astudiaeth bellach wedi’u rhannu â Llywodraeth Cymru, a byddant yn cael eu defnyddio i lywio sut i gefnogi rhanddeiliaid a’r math o ymyriadau y mae eu hangen wrth symud ymlaen.


Darllenwch y datganiad cabinet ysgrifenedig a’r astudiaeth lawn


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.