16.4 C
Llanelli
Wednesday, September 16, 2026
Home Entertainment Tymor godidog o ddrama yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn

Tymor godidog o ddrama yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn

0
533
SMALLWizard of Oz FB even 2 min
SMALLWizard of Oz FB even 2 min

Mae Castell Caeriw yn falch iawn o gyhoeddi bod cyfres o gynyrchiadau theatr awyr agored yn dychwelyd i ddiddanu cynulleidfaoedd yr haf hwn.

Bydd y perfformiad cyntaf, yn atyniad hyfryd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn cael ei gynnal ddydd Llun 31 Gorffennaf, wrth i Red Herring Theatre ddychwelyd i Gastell Caeriw gyda’r sioe Sherwood: The Adventures of Robin Hood. Yn llawn cyffro, chwerthin, ymladdfeydd cleddyfa, a chymeriadau anfarwol fel John Bach, y Brawd Tuck, a’r Forwyn Farian, mae’r stori deuluol gyffrous hon yn berffaith ar gyfer noson braf o haf, a bydd yn para tan ddydd Gwener 4 Awst.

Cyfle i glicio eich sodlau a dawnsio i lawr yr heol brics melyn wrth i gwmni Immersion Theatre gyflwyno addasiad newydd sbon o The Wizard of Oz ddydd Llun 7 Awst. Sioe hudol i’r teulu cyfan sy’n sicr o wneud i chi chwerthin o’r dechrau i’r diwedd.

Ymunwch â Dorothy ar ei thaith i’r Ddinas Emrallt wrth iddi hi a’i chyfeillion ganfod eu ffordd trwy wlad hudol i chwilio am y nerthol a’r rhyfeddol, Wizard of Oz. Gyda digonedd o ryngweithio cynulleidfaol, gwisgoedd gwych, sgript wreiddiol, a llawer o chwerthin, mae’r fersiwn newydd hon yn argoeli i fod yn wledd i’r teulu oll.

Y trydydd cynhyrchiad awyr agored a gynhelir yng Nghastell Caeriw yr haf hwn fydd Bad Dad, sef cynhyrchiad gan un o’r awduron plant mwyaf poblogaidd, David Walliams. Stori wresog am uchafbwyntiau ac isafbwyntiau perthynas rhwng tad a mab yw hon. Mae Bad Dad yn dilyn Frank a’i dad Gilbert wrth iddynt wneud eu gorau i ddianc rhag crafangau’r arch-droseddwr lleol a chlirio enw Gilbert.

Red Herring Theatre yn dychwelyd i Gastell Caeriw yr haf hwn gyda’r sioe Sherwood: The Adventures of Robin Hood.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae ein perfformiadau theatr awyr agored wedi bod yn boblogaidd dros ben dros y blynyddoedd diwethaf, felly byddem yn argymell eich bod yn archebu’n gynnar er mwyn osgoi cael eich siomi.

“Bydd angen i’r rheini sy’n dod i’r digwyddiadau ddod â charthen neu gadair â chefn isel i eistedd arni, picnic a dillad addas i’w gwneud eu hunain yn gyfforddus i gael noson bleserus. Bydd diodydd poeth a hufen iâ ar gael ar y safle.”

Rhaid archebu lle ar gyfer pob perfformiad. Ewch i www.castellcaeriw.com i gael tocynnau, amseroedd a rhagor o wybodaeth am y perfformiadau. Sylwch nad oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau a bydd y perfformiadau’n cael eu cynnal mewn tywydd gwlyb.

Mae’r Castell a’r Felin Heli yn agored bob dydd drwy gydol yr haf o 10yb-4.30yh (mynediad olaf am 4yh), gydag Ystafell De Nest yn gweini cinio ysgafn, lluniaeth ac amrywiaeth o gacennau cartref blasus.

I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i www.pembrokeshirecoast.wales/mynediadibawb.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.