6.5 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home hywel dda health board Cyhoeddi clinigau yr Haf ar gyfer brechiadau plentyndod

Cyhoeddi clinigau yr Haf ar gyfer brechiadau plentyndod

0
381
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0031 scaled
all 2020 02 03 HDD c19 vaccination 0031 scaled

Gofynnir i rieni a gwarcheidwaid plant a phobl ifanc wirio cofnodion brechu eu plentyn yr haf hwn.

Bydd clinigau galw heibio dal i fyny yn cael eu cynnal ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yr haf hwn ar gyfer pob brechiad plentyndod.

Dywedodd Bethan Lewis, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Dros Dro Iechyd Cyhoeddus Bwrdd
Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae imiwneiddio yn bwysig i blant oherwydd ei fod yn helpu i ddarparu imiwnedd cyn dod i gysylltiad â chlefydau a allai beryglu bywyd.

“Mae imiwneiddio wedi helpu i gael gwared o rai clefydau gwanychol difrifol iawn. Mae’r frech wen, er enghraifft, bellach wedi’i dileu diolch i frechlynnau.

“Mae’n bwysig bod pob plentyn yn cael mynediad hawdd at eu brechlynnau sydd wedi’u hamserlennu ac felly rydym yn falch o gynnig y sesiynau galw heibio hyn.”

Rhaid i riant neu warcheidwad sy’n gallu rhoi caniatâd fod yn bresennol gyda’r
plentyn/plant.

Cynhelir apwyntiadau a sesiynau galw heibio i blant 5 i 17 oed yn y lleoliadau canlynol:

  • Dydd Mawrth 25 Gorffennaf 11.00am – 1.00pm (Galw heibio yn unig) yn ‘The Table’, Rhodfa Myrddin, Caerfyrddin (drws nesaf i Poundland)
  • Dydd Mawrth 8 Awst 12.00pm – 6.00pm yn Hyb Neyland, Canolfan Frechu Neyland vaccina, Uned 1, Parc Honeyborough, Neyland, Sir Benfro, SA73 1SE
  • Dydd Merched 9 Awst 12.00pm – 6.00pm mewn 2 leoliad:

Hyb Dafen, Uned 2a, Ystad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, Llanelli SA14 8QW

Hyb Trewen, Ysgol Trewen, Cwm-Cou, Castell Newydd Emlyn SA38 9PE

  • Dydd Iau 17 Awst 12.00pm – 6.00pm yn Canolfan Integredig , Llwyn yr Eos, Penparcau, Aberystwyth, SY23 1SH

Mae croeso i rieni sydd ag ymholiadau am unrhyw agwedd o imiwneiddiadau eu plentyn alw i mewn am sgwrs anffurfiol neu ffonio’r rhif isod.

Ffoniwch 0300 303 8322 Opsiwn 1 os hoffech drefnu apwyntiad, fel arall gallwch alw i mewn i’r clinigau. Fodd bynnag, nodwch y bydd y rhai ag apwyntiadau yn cael eu blaenoriaethu yn ystod cyfnodau prysur.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.