9.4 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home Drink Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru

Uchafbwynt newydd i allforion Bwyd a Diod Cymru

0
714
Food and drink image min
Food and drink image min

Roedd allforion Bwyd a Diod Cymru werth £797 miliwn yn 2022, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths.

Gyda’r Sioe Frenhinol yn llawn a thorfeydd yn mwynhau rhai o gynhyrchion bwyd a diod gorau Cymru, mae’r Gweinidog wedi datgelu bod allforion y diwydiant wedi cynyddu £157m rhwng 2021 a 2022, sy’n gynnydd o 24.5%.

Mae hyn yn gynnydd canrannol mwy na’r DU gyfan, a gynyddodd 21.6%.

Y categorïau allforio gwerth uchaf ar gyfer Bwyd a Diod Cymru yn 2022 oedd Cig a Chynnyrch Cig ar £265m, cynnydd o 42% ers 2021, a Grawnfwyd a Pharatoadau Grawnfwyd, cynnydd o 16% i £160m.

Cyrhaeddodd gwerth allforion y sector i’r UE £594m, cynnydd o £130m ers 2021. Roedd allforion y diwydiant i wledydd y tu allan i’r UE werth £203m yn 2022, twf mawr o £176m yn 2021.

Ffrainc bellach yw’r gyrchfan gwerth uchaf ar gyfer allforion bwyd a diod o Gymru, ar £150m. Ymhlith y prif gyrchfannau eraill mae Gweriniaeth Iwerddon (£145m), Gwlad Belg (£78m), yr Iseldiroedd (£52m), a’r Almaen (£51m).

Meddai y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae allforion bwyd a diod o Gymru yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan sicrhau fod pobl mewn llawer o wledydd dramor yn gallu mwynhau cynnyrch o ansawdd uchel o Gymru.

“Mae sgiliau, brwdfrydedd ac angerdd y sector i ddarparu’r cynnyrch gorau posibl yn glir o’r canlyniadau heddiw.

“Rwy’n falch o allu gwneud y cyhoeddiad hwn yn Sioe Frenhinol Cymru sy’n rhoi cyfle i gwmnïau o bob cwr o Gymru arddangos eu bwyd a’u diod gwych, ac rwy’n siŵr bod ymwelwyr o bell ac agos yn mwynhau.”

Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynllun newydd, y Cynllun Arloesi Strategol, i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau cymorth busnes i fusnesau bwyd a diod ledled Cymru.

Fel rhan o hyn, bydd Prosiect Helix, sy’n cynnig cymorth technegol a masnachol i ddiwydiant bwyd a diod Cymru, yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod Helix, a lansiwyd yn 2016, wedi rhoi hwb economaidd o £355 miliwn i’r diwydiant, wedi helpu i greu 683 o swyddi ac wedi diogelu 3,647 o swyddi. Mae mwy na 700 o fusnesau wedi cael cefnogaeth drwy’r cynllun a datblygwyd bron i 2,100 o gynhyrchion bwyd a diod newydd.

Diolch i’r cyhoeddiad heddiw, bydd y prosiect bellach yn gallu cefnogi gweithgynhyrchwyr mwy yng Nghymru ochr yn ochr â busnesau bach a chanolig sydd eisoes wedi elwa.

Dywedodd Mike Woods, Prif Weithredwr Just Love Food Company: “Ers i’r cwmni cyswllt ymuno â’r busnes trwy Brosiect Helix mae ein trosiant wedi tyfu dros 65% ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb y strwythurau technegol mwy cadarn hynny sydd ar waith. Mae Prosiect Helix wedi helpu’r busnes i dyfu ac mae wedi helpu i osod sylfaen fydd yn helpu i barhau i dyfu.”

Ychwanegodd y Gweinidog: “Bydd y Cynllun Arloesi Strategol yn sail i Weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod.

“Fel rhan o’r Prosiect hwn, bydd HELIX, sydd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ddiwydiant bwyd a diod Cymru, gan helpu cwmnïau i fabwysiadu dull mwy effeithlon a strategol, yn parhau tan fis Mawrth 2005.

“Mae effaith gadarnhaol y prosiect yn glir i’w weld trwy’r hwb economaidd o £355 miliwn y mae wedi’i roi yn ogystal â nifer y swyddi newydd y mae wedi helpu i’w creu a’r miloedd y mae wedi’u diogelu. Mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth uwchsgilio gweithlu Cymru, a chefnogi busnesau i ddatblygu cynnyrch newydd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.