11.6 C
Llanelli
Monday, November 2, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Gwerthu Hen Orsaf Heddlu Cydweli

Gwerthu Hen Orsaf Heddlu Cydweli

0
475
IMG 1700 2 1024x768 1
IMG 1700 2 1024x768 1

Bydd yr eiddo a oedd unwaith yn gartref i’r orsaf heddlu yng Nghydweli’n cael ei werthu, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio ac yn gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd swyddogion sy’n gwasanaethu cymuned Cydweli’n parhau i weithio o’u canolfan yng Ngorsaf Dân Cydweli a Phorth Tywyn ac yn parhau i sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau yng Nghydweli.

Mae’r gwerthiant hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

“Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae’r adeilad wedi cael ei lesio i fanc bwyd lleol dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae’r cyfle hwn yn caniatáu i bob parti ystyried caffael a rhyddhau’r ased er sicrwydd a budd cyhoeddus ehangach.

“Mae gwerthu’r eiddo hefyd yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud â buddiannau gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r adeilad presennol yn weithredol mwyach.

“Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yng Nghydweli’n gweld unrhyw wahaniaeth.

“Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Bydd yr adeilad ym Manc Pendre, Cydweli, yn mynd i’r farchnad yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Nid yw’r hen orsaf heddlu yng Nghydweli wedi’i defnyddio’n weithredol fel Gorsaf Heddlu ers sawl blwyddyn, yn dilyn penderfyniad gan Heddlu Dyfed-Powys i uno’r ganolfan heddlu â Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghydweli.

Mae penderfyniad wedi’i wneud yn awr fel rhan o gynlluniau Ystadau ehangach yn Heddlu Dyfed-Powys i werthu’r eiddo, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel canolfan adnoddau gwledig sy’n hwyluso cymorth amrywiol ar gyfer yr ardal ehangach.

“Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn. Gan hynny, hoffwn sicrhau’r gymuned leol nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu ei wasanaethau allan o dref Cydweli.

“Mae cydweithio â gwasanaethau brys golau glas eraill i ddarparu canolfan weithredol sy’n addas ar gyfer y diben yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, ac yn galluogi ein swyddogion i barhau â’u gwaith hollbwysig â gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.”

“Ym mis Mai eleni, agorom ddalfa a chanolfan Heddlu gynaliadwy amlbwrpas newydd ar gyrion Llanelli, yn ardal Dafen. Mae’r cyfleuster newydd hwn ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau.

“Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am y materion lleol diweddaraf.

“Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

“Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch eich Timoedd Plismona Bro yng Nghydweli, Porth Tywyn, Pump-heol a Phont-henri ar Facebook a @DPPBurryPort ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu.

Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.