13 C
Llanelli
Friday, July 31, 2026
Home Crime and Incidents Dyfed-Powys Police Gwerthu’r hen orsaf yng nghanol tref Llanelli

Gwerthu’r hen orsaf yng nghanol tref Llanelli

0
571
Llanelli Police Station min
Llanelli Police Station min

Bydd hen orsaf a dalfa Llanelli’n cau ac yn mynd ar werth, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio a gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Gaerfyrddin.

Nawr bod canolfan amlbwrpas newydd sbon Heddlu Dyfed-Powys yn ardal Dafen yn ar waith yn llawn (ers mis Mai 2023), nid oes gofyniad gweithredol bellach ar gyfer yr hen orsaf heddlu yn y dref.

Bydd y Tîm Plismona Bro’n parhau i weithio o’u canolfan yng nghanol y dref, gan sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.

Mae’r cau hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae’r ganolfan heddlu amlbwrpas newydd yn ardal Dafen yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Gwnaed y penderfyniad i gau a gwerthu’r hen orsaf â budd gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn cof hefyd, gan nad yw’r orsaf bresennol yn angenrheidiol nac yn addas ar gyfer y diben mwyach.

Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yn Llanelli’n gweld unrhyw wahaniaeth.

Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Bydd yr adeilad ar Heol yr Hen Gastell, Llanelli, yn mynd i’r farchnad yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: “Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn.

Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis, wedi fy sicrhau na fydd unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth i’r cyhoedd yn Llanelli o ganlyniad i’r penderfyniad ystadau hwn.

Ym mis Mai eleni, agorom ddalfa a chanolfan Heddlu gynaliadwy amlbwrpas newydd ar gyrion Llanelli, yn ardal Dafen. Mae’r cyfleuster newydd hwn ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau.

Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau sicrhau’r cyhoedd fod ein hymrwymiad tuag at sicrhau diogelwch ein cymunedau dal yn flaenoriaeth inni, er waethaf y penderfyniad anodd i gau a gwerthu’r orsaf.

Rwy’n cydnabod y gall newid fod yn heriol, ond gallaf eich sicrhau y bydd y cam strategol hwn yn caniatáu Heddlu Dyfed-Powys i bennu adnoddau’n fwy effeithlon ac yn gwella eu hymdrechion plismona.

Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â

Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am faterion lleol.

Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch eich Timoedd Plismona Bro lleol ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn Heddlu Llanelli ar Facebook a @DPPLlanelli ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu.

Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.