12.9 C
Llanelli
Tuesday, October 20, 2026
Home Newyddion Lle Arfor 2: Cyhoeddi cynlluniau arloesol i helpu creu swyddi, cefnogi’r economi a...

Arfor 2: Cyhoeddi cynlluniau arloesol i helpu creu swyddi, cefnogi’r economi a chryfhau’r Gymraeg

0
414
Economy Minister Vaughan Gething Designated Member Cefin Campbell with council leaders scaled
Economy Minister Vaughan Gething Designated Member Cefin Campbell with council leaders scaled

Arfor Logo-3

Mae cyfres o ymyriadau i gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu yn economaidd fel rhan o raglen 3 blynedd ARFOR Llywodraeth Cymru gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw.

Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid Cymru. Mae’n adeiladu ar brofiad a gwerthusiad y rhaglen ARFOR gynharach a lansiwyd yn 2019.

Mewn digwyddiad lansio gydag Arweinwyr Cynghorau Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, amlinellodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y rhaglen a fydd yn cael ei chyflwyno gan yr awdurdodau lleol gyda’r nod o gryfhau cadernid economaidd cadarnleoedd Cymraeg – a chreu swyddi i gefnogi’r iaith.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i bedwar awdurdod lleol Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, i’w galluogi i aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd iddynt.

Wrth lansio’r rhaglen, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Gallai ARFOR 2 wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, trwy fwrw ymlaen â’n huchelgais o ledaenu ffyniant economaidd ledled Cymru. 

“Trwy weithio gyda’n hawdurdod lleol partner, rydym am gefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol.”

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:

“ARFOR yn rhaglen gyffrous i gefnogi a thyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’i gilydd. Trwy fuddsoddi yn y meysydd hyn, byddwn yn annog ac yn galluogi entrepreneuriaeth ac yn helpu busnesau i dyfu. Bydd hyn yn cefnogi cymunedau bywiog a ffyniannus. Mae’n wych cael bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol i dynnu sylw at y rhaglenni a gefnogir gan ARFOR, prosiect allweddol sydd wedi’i alluogi gan y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.”

Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog â Siop Griffiths, sef menter gymunedol ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle a dderbyniodd arian gan ARFOR 1 ac sydd wedi helpu i greu atebion lleol i’r heriau sy’n wynebu Dyffryn Nantlle ac i roi cyfleoedd i bobl ifanc aros a ffynnu yn eu cymuned.  Enillodd y fenter Wobr Dewi Sant yn 2022 am Ysbryd Cymunedol.

“Mae’r gefnogaeth gan Raglen ARFOR wedi helpu Siop Griffiths i greu swydd newydd – Rheolwr Gwasanaethau – ac mae’n ein helpu i gryfhau ein gwasanaethau a chynyddu ein hincwm,” meddai Ben Gregory, Ysgrifennydd Siop Griffiths Cyf.

“Yn y tymor hir rydym yn anelu at gynyddu nifer y swyddi a’r gwasanaethau sydd oll yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael eu cynnig i’r cyhoedd yn ddwyieithog. Mae Rhaglen ARFOR hefyd yn ein helpu i gysylltu â mentrau cymdeithasol o’r un anian, lle gallwn ddysgu ar y cyd am y ffordd orau o gefnogi a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg.”

Mae pum ffrwd waith fel rhan o raglen ARFOR – sef:

  • Llwyddo’n Lleol 2050 – Cynllun i bobl ifanc a theuluoedd ifanc dan 35 oed gael cyfleoedd gwaith a phrofiadau a all annog pobl i aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr i fod yn rhan o’r cynllun. Gweinyddir y gefnogaeth hon gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes. Bydd £3m yn cael ei fuddsoddi i weithredu’r prosiect. Mae mwy o fanylion ar gael yma.
  • Cymunedau Mentrus – cronfa sy’n cynnig cymorth i fentrau preifat / cymunedol / cymdeithasol i ddatblygu gwasanaethau / cynhyrchion newydd o fewn cymunedau gyda’r bwriad o ddatblygu’r economi leol a chynyddu gwelededd y Gymraeg. Am fwy o fanylion ewch i rhaglenarfor.cymru
  • Cronfa Her – pecyn o gymorth i gwrdd â heriau lleol a rhanbarthol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd unigolion sydd â syniadau arloesol i gwrdd â heriau economaidd Rhanbarth ARFOR yn cael cyfle i wneud cais am gymorth ariannol. Bydd £2.6m yn cael ei fuddsoddi i weithredu’r prosiect a fydd yn cael ei gyflawni gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes
  • Monitro, Gwerthuso a Dysgu – Penodwyd Wavehill i fonitro a gwerthuso Rhaglen ARFOR, gan nodi’r hyn rydym wedi’i ddysgu o’r cysylltiad rhwng yr economi leol a’r Gymraeg. Mae’r gwaith hwn yn ei gamau cynnar ond i wybod mwy, ewch i rhaglenarfor.cymru
  • Mae Bwrlwm ARFOR yn ymwneud â sut mae busnesau’n defnyddio’r Gymraeg a’r budd o wneud hynny. Mae’r tendr ar gyfer y gwaith hwn bellach yn fyw. Am fwy o wybodaeth, ewch i rhaglenarfor.cymru. Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau ar 14 Awst.

Yn dilyn y lansiad, bydd trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Llŷr Roberts, Menter a Busnes a chyfle i wrando ar banel profiadol yn trafod heriau lleol a rhanbarthol a sut y gall y Rhaglen ARFOR gefnogi rhai o’r heriau hyn. Bydd y panel yn cynnwys y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd; Lowri Gwilym, CLlLC; Endaf Griffiths o gwmni Wavehill a Dr Elin Hâf Gruffudd Jones, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.