7.8 C
Llanelli
Friday, March 13, 2026
Home Awards BU COLEG CAMBRIA yn dathlu ymroddiad a sgiliau dysgwyr a phrentisiaid yn...

BU COLEG CAMBRIA yn dathlu ymroddiad a sgiliau dysgwyr a phrentisiaid yn ei Gwobrau Myfyrwyr blynyddol.

0
564
StudentAwardsNIGHT2
StudentAwardsNIGHT2

Cynhaliwyd digwyddiadau ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch (AB ac AU) a Dysgu yn y Gwaith (DyyG) a Dysgu Oedolion a’r Gymuned (ACL) yn safle Iâl y coleg yn Wrecsam yr wythnos hon.

Llywyddwyd y seremonïau gan y Prif Weithredwr Yana Williams a Cath Sullivan, Dirprwy Brif Weithredwr Pobl, Profiadau a Diwylliant dros ddwy noson.

Yana Williams Awards

“Llongyfarchiadau i bawb ar eich llwyddiant yn y flwyddyn ddiwetha,” meddai Ms Williams.

“Hefyd, diolch yn fawr iawn i’ch teuluoedd, ffrindiau a’r rhai a’ch cefnogodd chi ar eich teithiau.

“Rydych chi’n glod i Goleg Cambria, ac rydyn ni mor blês ac yn falch o allu dathlu eich cyflawniadau ar draws ystod eang o raglenni.

“O brentisiaethau a chyrsiau dysgu yn y gwaith i Safon Uwch a rhagor, beth bynnag fydd eich camau nesaf, byddwn ni bob amser yma i chi ac yn dymuno pob lwc i chi ar gyfer y dyfodol.”

Emmanuel Anthony

Y gwesteion arbennig oedd yr entrepreneur, siaradwr ac ymgynghorydd cychwyn busnes Emmanuel Anthony, sydd â chenhadaeth o “rymuso pobl i droi eu brwdfrydedd i’w proffesiwn trwy wytnwch, etheg waith ac entrepreneuriaeth”, a Matt Hall, Deiliad Record y Byd Guinness, entrepreneur cyfresol a gyrhaeddodd rownd derfynol amatur cryfhau’r corff a chyflwynydd y podlediad Success School yn siartiau uchaf Apple..

Matt Hall

Mae gwobrau’r myfyrwyr yn dathlu cyflawniad ar draws holl safleoedd Cambria – Llaneurgain, Glannau Dyfrdwy, Llysfasi, Ffordd y Bers a Choleg Iâl yn Wrecsam.

Ymhlith yr enillwyr oedd:

Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Glannau Dyfrdwy – Daniel Mayers-Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Chweched Iâl – Zoe Bayley-Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Y Gymraeg – Melody Griffiths

Prentis Cymraeg y Flwyddyn – Ruby Ballantyne

Myfyriwr y Flwyddyn Elusennau – Ben White

Student Awards

Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch – Selma Souza Fernandes

Dysgwr y Flwyddyn Addysg Uwch – Matthew Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Cwrs i’r Niwroamrywiol – Natasha Royal

Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon Elît – Carys Davies

Myfyriwr y Flwyddyn E-chwaraeon – Oliver Pearce

Student Winners 24

Myfyrwyr y Flwyddyn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – Max Williams, Micah Hampton, Enrique Manzano.

Prentis y Flwyddyn Technolegau Digidol – Ashley Littlemore

Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn – Anne Williams

Prentis Awyrennau’r Flwyddyn – Robert Jones

Prentis Cerbydau Modur y Flwyddyn – Hayley Brittle

Myfyriwr y Flwyddyn Cyrsiau’r Tir Llysfasi – Charlotte Bailey

Myfyriwr y Flwyddyn Astudiaethau Technegol Llaneurgain – Kai Dodd

Student Awards Celebrate

Myfyriwr y Flwyddyn Gofal Plant DyyG  Gemma Young

Dysgwr y Flwyddyn Dysgu Saesneg – Deodato Barbosa De Carvalho 

Dysgwr y Flwyddyn Cymraeg i Oedolion – Kierion Lloyd

Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt a Harddwch DyyG – Tia Arrowsmith

Roedd yna hefyd gydnabyddiaeth arbennig i’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol WorldSkills UK a gynrychiolodd y coleg a’i bartneriaid diwydiant yn 2023/24

Am ragor o wybodaeth a’r rhestr lawn o enillwyr yn seremonïau AB/AU a Dyyg/ACL, ewch i’r wefan: www.cambria.ac.uk.

Gallwch hefyd weld rhagor o ymateb trwy ddefnyddio’r hashnod #cambriaawards24 ar y cyfryngau cymdeithasol.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.