Mae adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan a Shelter Cymru yn datgelu maint digartrefedd yng Nghymru gydag 1 o bob 215 o aelwydydd bellach yn byw mewn llety dros dro.
Mae ymchwil newydd gan elusennau blaenllaw Cymru, Sefydliad Bevan a Shelter Cymru wedi taflu goleuni ar faint yr argyfwng digartrefedd yng Nghymru a’r effaith y mae’n ei chael ar bobl a theuluoedd. Mae nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn llety dros dro wedi cynyddu 18% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, sy’n golygu bod 1 o bob 215 o aelwydydd yn byw mewn llety dros dro ar hyn o bryd.
I filoedd o bobl mae hyn yn golygu bod yn gaeth yn byw mewn gwestai, gwely a brecwast ac mewn meysydd carafanau. Mae’n golygu ymdopi â diffyg cyfleusterau coginio, gyda chyfleusterau annigonol i ymolchi a diffyg lle a phreifatrwydd gan fod teuluoedd cyfan wedi’u cyfyngu i ystafelloedd sengl – hyd yn oed yn rhannu gwelyau mewn rhai achosion. Yn y bôn, mae’r rhain yn lleoedd nad ydynt yn addas, ac sy’n cael effaith negyddol ar iechyd a lles, cyflogaeth ac addysg.
Ac eto, mae’r niferoedd uchaf erioed o bobl yng Nghymru bellach yn byw mewn llety o’r fath. Gydag awdurdodau lleol yn aml heb unrhyw ddewis ond dibynnu ar lety dros dro gan fod effaith methiant degawdau i adeiladu’r cartrefi cymdeithasol sydd eu hangen arnom yn cael ei ddwysáu gan gostau rhent cynyddol, yr argyfwng costau byw ehangach a system les sydd i gyd yn methu ag amddiffyn y rhai mewn angen.
Mae’r ymchwil newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn pwysleisio effaith ddynol yr argyfwng hwn gyda phobl yn rhannu eu straeon i helpu i dynnu sylw at yr heriau gwirioneddol y maent yn eu hwynebu bob dydd.
Fel y dywedodd un person sy’n byw mewn llety dros dro wrth ymchwilwyr:
“Ni allaf ddal i fynd y ffordd rydw i’n mynd. Mae fy nghyflwr meddwl yn dirywio wrth fyw yma.”
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at bryderon penodol am effaith llety dros dro ar blant. Mae bron i 3,000 o blant yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru gyda’u teulu, sef bron i 6 o bob 1,000 o blant (3,143), gyda thraean o’r rhain wedi bod yn sownd mewn llety dros dro ers dros flwyddyn. Yn aml nid yw amodau yn addas ar gyfer anghenion plant. Dywedodd un tad â phlant oed ysgol wrth ymchwilwyr:
“Dyw e ddim yn deg ar y plant. Nid yw fy merch eisiau mynd i’r ysgol bellach. Roedd hi’n cael problemau gyda phlant eraill […] ac mae hi’n teimlo embaras am sut rydyn ni’n byw. Ni all y plant gael ffrindiau draw fan hyn.”
Gyda bron i 1,000 yn fwy o aelwydydd mewn llety dros dro ar ddiwedd 2023/24 nag ar ei ddechrau (966) a gyda dim ond 30% o aelwydydd llwyddiannus wedi symud i dai parhaol addas yn ystod y flwyddyn, mae’r elusennau’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys. i roi cartrefi i bobl drwy hybu’r cyflenwad o dai cymdeithasol.
Dywedodd Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil, Sefydliad Bevan:
“Mae cost ddynol ein hargyfwng tai yn amlwg yn y niferoedd cynyddol heb unman parhaol i’w alw’n gartref. Rydym yn cydnabod bod awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau glas i helpu pobl, ond mae prinder tai fforddiadwy iddynt symud iddyn nhw yn rhoi pwysau aruthrol ar y system.”
Dywedodd Robin White, Pennaeth Ymgyrchoedd, Shelter Cymru:
“Mae adroddiad heddiw yn destun darllen dirdynnol, ond nid yw’r hyn y mae’n ei ddweud yn syndod. Dyma’r straeon rydyn ni’n eu clywed bob dydd gan y bobl sy’n dod atom ni am help, pobl sydd angen cartref cymdeithasol diogel, sicr, addas a gwirioneddol fforddiadwy ond sy’n cael eu gadael gyda llety dros dro fel yr unig opsiwn oherwydd system sydd yn syml. ddim yn gweithio. Gwyddom nad yw awdurdodau lleol am fod yn ddibynnol ar lety Gwely a Brecwast ac atebion drud, tymor byr eraill. Dyna pam mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn flaenoriaeth drawslywodraethol a buddsoddi ymhellach i ddarparu’r cartrefi cymdeithasol y mae dirfawr eu hangen ar Gymru.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle