Partneriaeth rhwng y Grid Cenedlaethol a St John Ambulance Cymru yn pweru’r genhedlaeth nesaf o achubwyr bywyd

0
149
SJAC National Grid

Mae mwy na 1,200 o blant a phobl ifanc yn Ne Cymru wedi dysgu sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol gydag St John Ambulance Cymru diolch i gyllid gan Dosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol.

Cyflwynwyd y sesiynau arddangos gan elusen cymorth cyntaf Cymru o fis Medi i fis Rhagfyr 2024, gan gynnwys negeseuon Dosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol ar ddiogelwch trydanol a sut i osgoi damweiniau sy’n gysylltiedig â thrydan.

Nod Rhaglen Addysg Gymunedol St John Ambulance Cymru yw rhoi swyddogion cymorth cyntaf ym mhob cymuned a hyfforddi pob plentyn yng Nghymru gyda sgiliau achub bywyd, rhag ofn y bydd angen iddynt ymateb i argyfwng.

Mae’r gweithgareddau am ddim yn cynnig sesiynau cymorth cyntaf sydd wedi’u teilwra i anghenion grwpiau ysgol, cymunedol a gwirfoddol. Yn ogystal ag achub bywydau o bosibl, mae’r rhaglen hon hefyd yn cynnig llwybrau i yrfaoedd iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd James Cordell, Rheolwr Partneriaeth a Pherthynas St John Ambulance Cymru: “Rydym am i bob person ifanc feddu ar y sgiliau a’r hyder i achub bywyd, rhag ofn y bydd argyfwng yn digwydd, ac mae ein haddysg gymunedol am ddim i ysgolion yn un ffordd i ni yn gweithio tuag at y nod hwn.

SJAC National Grid

“Ni allwn wneud hyn heb ein cefnogwyr hael, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ddosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol am weithio mewn partneriaeth â ni i gyflwyno sesiynau ysgolion yn Ne Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r sgyrsiau ynghylch ymestyn y cynllun hwn gyda phrosiect pellach i hybu ein cydamcanion.”

Dywedodd Nick South, Rheolwr Addysg a STEM Dosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol: “Rydym wrth ein bodd yn cynnig ein cefnogaeth i St John Ambulance Cymru. Mae ein negeseuon diogelwch wedi’u cynllunio i helpu pobl i osgoi peryglon posibl o amgylch y rhwydwaith trydan ac mae St John Ambulance Cymru yn mynd yr ail filltir trwy ddysgu sgiliau achub bywyd y gellir eu defnyddio mewn argyfwng.

“Mae’r bartneriaeth berffaith hon yn dangos ein hymrwymiad parhaus i addysgu plant am ddiogelwch trydanol wrth helpu i dyfu ein perthynas ag ysgolion lleol a’r gymuned ehangach.”

Gallwch gael gwybodaeth am Ddosbarthiad Trydan y Grid Cenedlaethol, gweithredwr rhwydwaith dosbarthu trydan De Cymru, De Orllewin a Chanolbarth Lloegr drwy fynd i www.nationalgrid.co.uk.

I ddarganfod mwy am Raglen Addysg Gymunedol St John Ambulance Cymru a gweld sut y gallai eich ysgol neu grŵp cymunedol elwa, ewch i www.sjacymru.org.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle