17 C
Llanelli
Monday, July 20, 2026
Home Newyddion Lle Cwmni’n creu swyddi newydd ar ôl prynu ffatri Llywodraeth Cymru

Cwmni’n creu swyddi newydd ar ôl prynu ffatri Llywodraeth Cymru

0
373
Rhydian Jones Managing Director of Morgan Marine left with fellow Director Dai Jones
Rhydian Jones Managing Director of Morgan Marine left with fellow Director Dai Jones

Bydd cwmni gweithgynhyrchu o Sir Gaerfyrddin yn creu 20 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau ehangu ar ôl prynu ffatri wag gan Lywodraeth Cymru.

Mae Morgan Marine yn bwriadu buddsoddi £1.25m i adnewyddu’r adeilad yn Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen, ger Rhydaman, wrth i’r cwmni weithredu ar ei ddyhead i dyfu.

Bydd weldwyr medrus yn cynhyrchu cynhyrchion dur ffabrigedig o’r safle, a fydd hefyd yn gartref i gyfleuster hyfforddi ar y safle.

Ar hyn o bryd mae’r busnes yn cyflogi 211 o bobl, a bydd yn creu 20 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Mae Morgan Marine yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth o safon ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu’r set sgiliau yn ei gymuned.

“Rwy’n falch iawn bod prynu ein huned fusnes yn golygu y gall y busnes barhau i dyfu ac ehangu ei weithlu medrus heb gefnu ar ei wreiddiau.”

Mae Morgan Marine hefyd yn bwriadu datblygu ffynhonnell ynni adnewyddadwy ar y safle, o bosibl trwy osod paneli solar a thyrbinau gwynt.

Dywedodd Rhydian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Morgan Marine:

“Mae Morgan Marine yn falch iawn o gaffael uned newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i Landybïe a’r ardal gyfagos, wrth i ni geisio creu rhagor o swyddi medrus i bobl yn ein cymuned.

“Wrth i’r cwmni ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol o 60 mlynedd mewn busnes yn 2025, bydd y datblygiad hwn yn nodi pennod newydd yn hanes y cwmni. Bydd yr uned yn ein galluogi i gyflawni ein dyheadau o ran tyfu, i barhau i gyfrannu’n sylweddol at yr economi leol, ac yn ein helpu i ddatblygu gwaith gweithgynhyrchu Cymru ar draws marchnadoedd y DU a’r Byd.”


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.