Mae saith teulu yn dychwelyd i’w gwreiddiau fel rhan o’r elfen Ymgartrefu o Llwyddo’n Lleol, cynllun peilot a ariennir drwy raglen ARFOR Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw helpu pobl i ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg yn rhanbarth ARFOR (Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) drwy ddarparu cymorth ariannol ac ymarferol. Mae’r cynllun eisoes yn trawsnewid bywydau, gan wireddu’r freuddwyd o symud adref.
Ariennir Rhaglen ARFOR gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan y pedwar awdurdod lleol yn rhanbarth ARFOR. Mae’n ceisio cefnogi nifer fach o ymyriadau strategol sy’n cefnogi gweithgareddau economaidd sy’n anelu at gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith. Un o’i flaenoriaethau yw creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt, gan eu cefnogi i lwyddo’n lleol drwy fenter neu ddatblygu gyrfa a sicrhau bywoliaeth sy’n cyflawni eu dyheadau.
Trwy ymyrraeth Llwyddo’n Lleol, mae’r fenter Ymgartrefu wedi’i chreu mewn ymateb i’r flaenoriaeth hon. Ar yr un pryd mae’n helpu i gefnogi a chryfhau’r cymunedau yng nghadarnleoedd y Gymraeg – mae llawer o’r rhai sy’n dychwelyd yn dod â sgiliau gwerthfawr a all gefnogi’r economi leol.
I Annest a Saman, dyma ddechrau pennod newydd. Yn 2013, symudodd Annest i Wlad Thai i ddilyn gyrfa newydd, lle cyfarfu â’i gŵr, Saman. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw groesawu eu mab, Arwyn John, ac mae bellach yn teimlo fel yr amser perffaith i ddychwelyd i Wynedd. Maen nhw eisiau i Arwyn gael ei fagu yng Nghymru, wedi ei drochi yn yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, yn union fel yr oedd Annest ym Mhen Llŷn.
Mae Annest hefyd yn paratoi i ddychwelyd i weithio ym myd addysg, gyda chynlluniau i ennill cymhwyster addysgu a fydd yn caniatáu iddi ddysgu gwyddoniaeth mewn ysgol uwchradd leol.
“Mae’r gefnogaeth yma wedi gwneud y penderfyniad gymaint yn haws,” meddai. “Rydym yn gyffrous i fod yn dod adref ac mor ddiolchgar i Llwyddo’n Lleol am ei wneud yn bosibl.”
Ychwanegodd, “Mae’n golygu llawer i allu rhoi yn ôl i’r gymuned a’m siapiodd. Rydw i eisiau i Arwyn gael yr un cyfleoedd ag a gefais wrth dyfu i fyny, i siarad Cymraeg bob dydd a bod yn rhan o gymuned gref, gefnogol.”
Mae Lea a Simon hefyd yn paratoi ar gyfer eu symud hwythau. Mae Lea, sy’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth, wedi bod eisiau dychwelyd i Gymru ers tro. Ar ôl deng mlynedd yn Crewe, mae’r amser wedi dod. Mae Simon, sy’n wreiddiol o Loegr, wedi cofleidio diwylliant Cymru ac wedi dysgu’r iaith ers cyfarfod â Lea. Bydd eu tri phlentyn ifanc nawr yn cael eu magu mewn awyrgylch Cymraeg ei iaith yng Ngheredigion.

“Roedden ni bob amser yn gwybod ein bod ni eisiau magu ein teulu yng Nghymru,” meddai Lea.
“Dyma lle mae ein gwreiddiau, a gyda’r gefnogaeth hon, rydyn ni’n gallu gwireddu’r freuddwyd honno.”
Ychwanegodd, “Roedden ni eisiau i’n plant dyfu i fyny wedi’u hamgylchynu gan y Gymraeg, yn union fel y gwnes i. Mae eu gweld yn cael y cyfle hwnnw nawr yn rhywbeth arbennig iawn.”
Mae elfen Ymgartrefu Llwyddo’n Lleol yn rhan o ymgyrch ehangach o fewn rhaglen ARFOR i annog pobl ifanc a theuluoedd i weld ardaloedd Cymraeg fel lleoedd gwych i fyw a gweithio ynddynt. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth o hyd at £5,000 i helpu gyda chostau fel trafnidiaeth, tai, a gofal plant, ac yn darparu cymorth ychwanegol drwy arweiniad lleol a chyfleoedd rhwydweithio. Mae’r cynllun hwn eisoes wedi galluogi sawl teulu i ddychwelyd, gan gryfhau’r cymunedau hyn a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau’n iaith fyw i genedlaethau’r dyfodol.
Amlygodd Aled Pritchard, Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol, bwysigrwydd y fenter:
“Rydym yn gwybod bod cymaint o bobl ifanc eisiau dychwelyd, ond mae rhwystrau ymarferol yn eu dal yn ôl. Mae’r elfen Ymgartrefu yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau hynny, gan brofi nad breuddwyd yn unig yw symud cartref ond yn realiti hyfyw â chymorth. Mae gweld y saith teulu hyn yn cymryd y cam i ddychwelyd adref yn anhygoel.”
Meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Ceredigion ar ran Bwrdd ARFOR:
“Mae’r elfen Ymgartrefu yn ddarn pwysig o waith sy’n rhoi sylw i gyfleoedd sydd ar gael o fewn rhanbarth Arfor. Mae e wedi sbarduno trafodaethau pam bod pobl eisiau symud yn ôl i’w cymunedau cynhenid ac i eraill cael gweld y manteision o fyw neu sefydlu cartref yn ein cymunedau Cymreig. Hoffai Bwrdd ARFOR dymuno pob lwc i bawb ar eu siwrne nôl.”
Meddai’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
“Mae ARFOR yn parhau i fod o fudd i unigolion, busnesau a chymunedau ar draws ein cadarnleoedd Cymraeg, gydag amrywiaeth o brosiectau a ddarperir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu’n gadarnhaol at ffyniant economaidd cymunedau yn Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn.
“Mae’r fenter arbennig hon – Llwyddo’n Lleol – wedi’i thargedu at bobl ifanc a theuluoedd, gan eu hannog i wireddu eu huchelgeisiau o fewn rhanbarth ARFOR, helpu i gefnogi cymunedau hyfyw a bywiog, economïau rhanbarthol ffyniannus a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu yn yr ardaloedd hyn.”
Gyda’r criw bellach yn ymgartrefu, maent yn rhannu eu siwrnai yn ôl i’r ardal ar gyfryngau cymdeithasol Llwyddo’n Lleol, gan ddangos potensial ARFOR fel lle i fyw, gweithio a magu teulu.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle