9.8 C
Llanelli
Thursday, March 12, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Tad yn gwneud heic 24 awr i godi arian ar gyfer Uned...

Tad yn gwneud heic 24 awr i godi arian ar gyfer Uned Gofal Arbennig i Fabanod

0
918
Hefin Thomas
Hefin Thomas

Bydd Hefin Thomas yn dringo Cadair Idris am 24 awr i godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae Hefin yn ymgymryd â’r her ar 2 Mai 2025.

Meddai: “Ar y 1af o Fai 2018, cafodd fy merch, Cala-Mai, ei geni chwe wythnos cyn pryd. Ers hynny, mae hi wedi tyfu i fod yn ferch lachar ac iach. Roedd y gofal a gafodd gan y staff ar y ward yn anhygoel.

“Ni allaf ddiolch digon i’r staff am ofalu am Cala-Mai a’n teulu yn ystod ein hamser yn yr ysbyty. Mae hyn yn rhywbeth rwyf wedi bod eisiau ei wneud ers tro ac mae’n ffordd i ni roi rhywbeth yn ôl fel diolch am eu holl waith caled. Diolch.”

Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddweud pob lwc i Hefin ar ei her 24 awr.

“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

I gyfrannu at godwr arian Hefin, ewch i: https://www.justgiving.com/page/hefin-thomas-1736368631572

I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.