4.3 C
Llanelli
Friday, February 13, 2026
Home Christmas Articles Gwnewch rywbeth hudolus yng Nghastell Caeriw y gaeaf hwn

Gwnewch rywbeth hudolus yng Nghastell Caeriw y gaeaf hwn

0
503
SMALLFelted soap

Sebonau ffelt, addurniadau wedi’u gwneud â llaw, a chaligraffeg gyda naws canoloesol fydd yn hawlio’r llwyfan yng Nghastell Caeriw fis Tachwedd eleni, wrth i dymor newydd o weithdai ddod â chreadigrwydd Nadoligaidd i Ystafell De Nest.

SMALLCalligraphy

Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i gynnig dihangfa heddychlon o brysurdeb bywyd; maent yn cynnwys diodydd poeth, amgylchedd hyfryd, a bydd yr holl ddeunyddiau’n cael eu darparu i chi. Efallai y byddwch am ymuno er mwyn creu rhywbeth, neu i chwilio am anrheg wedi’i gwneud â llaw, mae pob gweithdy yn eich gwahodd chi i ymlacio ac i roi cynnig ar rywbeth newydd.

Mae’r gyfres yn dechrau gyda Gweithdy Sebonau Ffelt, lle bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i ffeltio gwlân merino lliwgar ar sebon, er mwyn creu dau sebon gweadog â llaw. Mae’r gweithdy hwn yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 4 Tachwedd, rhwng 4.30pm a 6.30pm, ac mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n chwilio am anrhegion Nadolig meddylgar neu am bleser Nadoligaidd.

SMALLFelted soap

Wythnos yn ddiweddarach, ddydd Mawrth 11 Tachwedd, gall gwesteion deithio’n ôl mewn amser yn ystod y Gweithdy Caligraffeg – a gynhelir rhwng 4.30pm a 6.30pm. Bydd y rhai sy’n bresennol yn creu cwils o blu gŵydd, yn malu afalau derw i greu inc canoloesol, ac yn meistroli’r grefft o lythrennu â llaw, yn barod i ychwanegu cyffyrddiad personol a hanesyddol at eu cardiau Nadolig.

Yn y sesiwn olaf, mae creadigrwydd yn cwrdd â disgleirdeb y ‘Dolig: Gweithdy Nadoligaidd Ffeltio â Nodwyddau. Mae’r sesiwn hon, sydd wedi’i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 18 Tachwedd, rhwng 4.30pm a 6.30pm, yn cynnig cyfle i wneud addurniadau hyfryd â llaw – perffaith fel anrhegion neu i ychwanegu lliw at eich coeden Nadolig.

SMALLXmas felting

Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal yn Ystafell De Nest yn yr Ardd Furiog, ac maent yn addas i blant 12 oed a hŷn. Mae pob gweithdy yn costio £20 y pen, ac yn cynnwys paned o de neu goffi. Bydd diodydd Nadoligaidd, a danteithion cartref tymhorol eraill, ar gael i’w prynu yn ystod y digwyddiad. Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, ac nid oes posib cael arian yn ôl am y tocynnau. 

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell Caeriw: “Mae’r gweithdai hyn wedi dod yn draddodiad mor hyfryd – nid yn unig i ni, ond i’r bobl sy’n dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhywbeth arbennig iawn am ddysgu sgil newydd, wedi’ch amgylchynu gan hanes a chreadigrwydd. Mae’n fath gwahanol o hud a lledrith, a dyma un o uchafbwyntiau’r tymor yma yng Nghaeriw.”

Ewch ati i ddewis eich gweithdy, i ddatgloi eich creadigrwydd, ac i archebu eich lle ynwww.carewcastle.com, neu ar dudalen Facebook y Castell.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.