11.1 C
Llanelli
Tuesday, April 14, 2026
Home Newyddion Lle Bydd Barcud yn sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y Strategaeth Cynnwys Tenantiaid...

Bydd Barcud yn sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau newydd 

0
16
Tenant Workshops held in Lampeter Aberystwyth and Newtown

Mae Barcud yn datblygu Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau well sy’n parhau i adeiladu ar y gwaith o ymgysylltu â thenantiaid ac sy’n egluro ymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau a wneir ar draws y sefydliad yn y dyfodol.

Mae’r Strategaeth wrthi’n cael ei llunio yn dilyn cyfres ddiweddar o weithdai cydweithredol a oedd yn cynnwys tenantiaid, aelodau’r Bwrdd a chydweithwyr. 

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac mae’n cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Fel Grŵp, mae Barcud wedi ymrwymo i greu busnes uchelgeisiol a blaengar sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, ac ar ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a chymunedau.

Pwrpas y gweithdai a gynhaliwyd yn Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, y Drenewydd ac ar-lein oedd deall i ba raddau y mae tenantiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ar hyn o bryd, adnabod rhwystrau i waith ymgysylltu ystyrlon, a chasglu syniadau a phrofiadau go iawn cyn creu’r Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau newydd. 

Meddai Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud, “Mae cynnwys tenantiaid yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau ymatebol o safon. Drwy wrando’n weithredol ar denantiaid a chreu cyfleoedd hygyrch iddynt gymryd rhan, byddwn yn dysgu mwy gyda’n gilydd a byddwn felly’n gallu atgyfnerthu ymddiriedaeth, gwella bodlonrwydd a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion a phrofiadau presennol.”   [Mwy i ddilyn …] 

Meddai Alison wedyn, “Mae cynnwys tenantiaid yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau ymatebol o safon. Drwy wrando’n weithredol ar denantiaid a chreu cyfleoedd hygyrch iddynt gymryd rhan, ein nod yw atgyfnerthu ymddiriedaeth, gwella bodlonrwydd a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion a phrofiadau go iawn.”

Bydd y Strategaeth yn darparu diffiniad clir a hygyrch o beth yw cynnwys tenantiaid, a fydd yn creu dull cyson o weithredu yn y dyfodol. Bydd yn grymuso tenantiaid, yn cryfhau cymunedau ac yn sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cynnwys mewn modd ystyrlon, cynhwysol ac effeithiol. Bydd yn adlewyrchu ymrwymiad Barcud i weithio mewn partneriaeth â thenantiaid i lunio gwasanaethau, gwella canlyniadau ac adeiladu sefydliad cryfach, mwy cysylltiedig.

Disgwylir y bydd y Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau newydd yn cael ei lansio yn ystod yr haf eleni. Os ydych yn denant ac nad oeddech yn gallu mynychu unrhyw un o’r gweithdai diweddar ond yr hoffech gyfrannu eich barn, mae croeso i chi anfon ebost i: post@barcud.cymru


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here