17.8 C
Llanelli
Sunday, July 26, 2026
Home Hywel Dda Health Charities Codwr arian yn cerdded dros lo poeth er budd elusen

Codwr arian yn cerdded dros lo poeth er budd elusen

0
196
Tracy Beynon cheque presentation

Cymerodd Tracy Beynon ran yn Nigwyddiad Tân dan draed Elusennau Iechyd Hywel Dda ym mis Hydref a chodi swm anhygoel o £528 ar gyfer Gwasanaethau Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn ystod y digwyddiad elusennol, cerddodd y codwyr arian yn droednoeth ar draws marwor 800°C i godi arian i’r GIG.

Roedd Tracy, sydd wedi bod yn aelod o staff yn Llwynhelyg ers 23 mlynedd ac yn glaf Rhiwmatoleg ers 20 mlynedd, wastad eisiau cymryd rhan mewn taith gerdded tân a neidiodd ar y cyfle i wneud un ar gyfer ei bwrdd iechyd lleol.

Dywedodd Tracy: “Dros y blynyddoedd, rydw i wedi gwneud pethau gwyllt i godi arian i wahanol elusennau gan gynnwys eillio fy mhen ar ôl gêm rygbi Chwe Gwlad 11 mlynedd yn ôl.

“Mae Gwasanaeth Rhiwmatoleg wedi gofalu am genedlaethau lawer o fy nheulu dros y blynyddoedd, ac roeddwn i eisiau ceisio rhoi rhywbeth yn ôl i helpu’r tîm a’r cleifion mae’n nhw’n eu gwasanaethu.

“Cefais fy syfrdanu gan faint o arian a godais. Ar ôl i mi roi fideo ar TikTok, cefais nifer o roddion gan bobl nad wyf erioed wedi cwrdd â nhw! Byddaf yn ddiolchgar am byth i fy ffrindiau a’m teulu am gefnogi fy holl syniadau codi arian gwallgof.”

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian: “Diolch yn fawr iawn i Tracy am ddangos ei chefnogaeth i’r gwasanaeth sydd wedi gofalu mor dda amdani ers cyhyd.

“Nid yw’r rhoddion elusennol hael a dderbyniwn yn disodli cyllid y GIG. Yn hytrach, maent yn cefnogi eitemau a gweithgareddau ychwanegol y tu allan i wariant craidd y GIG. Mae’r pethau bach ychwanegol hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac rydym mor ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Am fwy o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.