11.4 C
Llanelli
Sunday, October 25, 2026
Home Farming CYMORTH GAN MENTER MOCH CYMRU I GREU DEUNYDDIAU MARCHNATA YN RHOI HWB...

CYMORTH GAN MENTER MOCH CYMRU I GREU DEUNYDDIAU MARCHNATA YN RHOI HWB IGYNHYRCHWYR MOCH

0
529
Laptop scaled
Laptop scaled

Bydd cynhyrchwyr ar draws Cymru yn cael hwb marchnata, diolch i gynnydd yn y cymorth sydd ar gael gan Menter Moch Cymru.

Fel rhan o’r ystod eang o gyngor a chymorth busnes sydd ar gael i fentrau moch, bydd Menter Moch Cymru yn cynyddu swm ei grantiau presennol i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo wedi’u brandio, o £500 i £750.

Mae’r fenter yn galluogi cynhyrchwyr i fabwysiadu ymagwedd ymarferol, gan weithio gyda chwmni dylunio cymeradwy i ddatblygu deunyddiau hyrwyddo pwrpasol fel taflenni, labeli, deunydd pacio, hysbysebion digidol a gwaith graffig.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “O ystyried y sefyllfa bresennol o ganlyniad i Covid-19, mae mwy o angen fyth i gynhyrchwyr ddefnyddio cymaint o ddulliau marchnata ag y bo modd i ehangu nifer eu cwsmeriaid ac i dynnu sylw at eu cynhyrchion a’u gwasanaethau. Trwy wneud hyn, byddant yn codi ymwybyddiaeth o ansawdd ac argaeledd porc o Gymru hefyd.

“Rydym yn byw mewn cyfnod nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen, felly teimlwn bod y cynnydd hwn o ran y cymorth i gynhyrchwyr yn amserol ac yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol cael hunaniaeth brand cadarn sy’n adlewyrchu ansawdd a tharddiad eu porc mewn ffyrdd sy’n ddeniadol i ddefnyddwyr.”

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

www.mentermochcymru.co.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.