11.9 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home hywel dda health board Llongyfarchiadau i Nigel Miller MBE

Llongyfarchiadau i Nigel Miller MBE

0
467
Nigel Miller MBE pic 2
Nigel Miller MBE pic 2

Llongyfarchiadau i Nigel Miller, Arweinydd Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar gael ei benodi’n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE).

Derbyniodd Nigel ei MBE yn ystod ei arwisgiad yng Nghastell Windsor ar 16 Tachwedd i gydnabod ei wasanaeth i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydw i wedi fy synnu braidd o gael fy enwebu am yr anrhydedd hon,” meddai Nigel. “Nid oes amheuaeth na fyddwn wedi ei chael pe na bawn wedi cael cyfle i weithio gyda rhai pobl anhygoel sy’n digwydd bod wedi cael eu labelu â’r term ‘anabledd dysgu’, yn ogystal â chydweithwyr rhagorol a thalentog, sefydliad blaengar a theulu gwirioneddol gefnogol.”

Dechreuodd Nigel weithio yn Sir Gaerfyrddin ym 1986 fel yr unig Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl / anableddau dysgu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Yn ddiweddarach, adeiladodd dîm o 14 o Therapyddion a Chynorthwywyr arbenigol yn y maes.

Ymunodd Nigel â’r gwasanaeth anableddau dysgu ym 1992 ac mae’n aelod o’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu.

Cafodd ei gydnabod yn ffurfiol gan y Cyngor Proffesiynau Atodol i Feddygaeth pan gynorthwyodd wrth iddo drosglwyddo i fod y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Nigel and his wife at Windsor Castle

Yn 2003 mynychodd Nigel dderbyniad yn 10 Downing Street i gydnabod ei waith yn hyrwyddo gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Bu’n gadeirydd ar reolwyr Therapi Iaith a Lleferydd ar hyd a lled Cymru, ac fel cynrychiolydd Pwyllgor Cynghori Therapïau Cymru yn 2007/08, roedd hefyd yn allweddol wrth ddatblygu achos dros sefydlu a phenodi cyfarwyddwyr therapi gweithredol ar y Byrddau Iechyd a oedd newydd eu ffurfio yng Nghymru.

Yn ddiweddarach, cyflwynwyd Gwobr Cymrodoriaeth Therapi Iaith a Lleferydd y Coleg Brenhinol i Nigel mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn San Steffan ym mis Hydref 2011.

Ymhellach, chwaraeodd ran hanfodol yn natblygiad yr arwyddion cyfeirbwyntiau yn Ysbyty Llwynhelyg i ddechrau ac yna mewn nifer o ysbytai ledled y DU. Dyluniwyd y rhain i helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas ysbytai yn haws.

Cafodd y canlyniad ymateb cadarnhaol ymhlith pobl ag anableddau dysgu a’r cyhoedd. Enillodd y prosiect hwn sylw rhyngwladol ac anrhydeddau gan ei gyfoedion a llywodraeth Cymru, gan ennill y wobr ‘Dinasyddion wrth wraidd Ail-ddylunio a Chyflenwi Gwasanaeth’ yng Ngwobrau’r GIG 2013.

“Mae gen i hemoffilia difrifol, sy’n golygu nad yw fy ngwaed yn ceulo heb driniaeth, felly treuliais lawer o fy mywyd cynnar ar ward plant yn Nyfnaint. Gwelais lawer o feddygon, nyrsys a therapyddion yn blentyn, fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i weithio yn y GIG,” ychwanegodd Nigel.

Yn 2019 derbyniodd Nigel Wobr GIG Cymru, am ‘rymuso pobl i gyd-gynhyrchu gofal’.

Mae angerdd Nigel dros gynnwys pobl ag anableddau dysgu yn natblygiad gwasanaethau yn ei arwain i arloesi cynllun gwirfoddoli i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth mewn archwiliadau a datblygu strategaeth.

Mae Nigel yn gefnogwr brwd o’r ‘Dream Team’; sy’n cynnwys pobl ag anableddau dysgu sy’n cynrychioli’r boblogaeth anabledd dysgu ehangach yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth Ranbarthol. Datblygodd y ‘Dream Team’ y Siarter Anableddau Dysgu, sy’n nodi’r hyn y mae pobl ei eisiau gan wasanaethau.

Esboniodd “Mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o’r ‘Dream Team’ ac rwy’n falch o fod yn rhan o sefydliad (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda) sydd wedi ymuno â’r Siarter ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth”. 


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.