14 C
Llanelli
Thursday, October 22, 2026
Home hywel dda health board ‘Cais unwaith mewn oes’ ar gyfer buddsoddiad iechyd a gofal yng ngorllewin...

‘Cais unwaith mewn oes’ ar gyfer buddsoddiad iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru

0
422
PBC
PBC

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn trafod ac yn cytuno ar gyflwyno cynllun uchelgeisiol i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth.

Bydd Achos Busnes Rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru yn cael ei drafod yng nghyfarfod y Bwrdd Iechyd am 9.30am ddydd Iau 27 Ionawr 2022, a bydd ar gael i’w wylio’n fyw yma.

Mae’n garreg filltir yn nhaith y Bwrdd i gyflawni ei strategaeth hirdymor a gwelliant yn iechyd y boblogaeth – Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach, yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth yn 2018.

Dyma hefyd y modd y bydd y Bwrdd yn mynd i’r afael â heriau hirsefydlog, gan gynnwys gwasanaethau bregus, heriau gweithlu ac ariannol  anghynaliadwy, ac ystâd ysbyty sy’n heneiddio (rhai o adeiladau ysbyty hynaf Cymru).

Mae’r Achos Busnes Rhaglen yn cynnig gobaith yn dilyn y pandemig, y gall iechyd a gofal symud o fod yn wasanaeth salwch gyda ffocws ar adeiladau ysbyty ac ymyrraeth, at fod yn wasanaeth sy’n gweithio ar draws ffiniau i atal afiechyd neu ddirywiad mewn iechyd, gan ddarparu cymorth yn gynt, ac yn nes at adref lle bynnag y bo modd.

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dyma’r cam cyntaf ond pwysig o gynhyrchu achos busnes i Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau buddsoddiad ar raddfa nas gwelwyd erioed o’r blaen yn yr ardal hon o Gymru.

“Mae pandemig COVID-19 wedi atgyfnerthu’r angen am newid, a chredwn mai dyma ein cyfle unwaith mewn oes i wella canlyniadau iechyd a llesiant ein poblogaeth a chreu canolbarth a gorllewin Cymru iachach a gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Yr Achos Busnes Rhaglen yw’r cam cyntaf o gynllunio busnes i sicrhau cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru er mwyn symud ymlaen i gynllunio, dadansoddi ac argymhellion llawer mwy manwl ar y manylion ar sut i symud ymlaen.

Wedi’i gynnwys ar hyn o bryd mae prosbectws o gyfleoedd buddsoddi, y gellid eu gwireddu dros y degawd nesaf, i wella’n sylfaenol y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd a gofal, yn ogystal â’r amgylcheddau y cânt eu darparu ohonynt. Os caiff ei gefnogi, gallai’r buddsoddiad fod yn fwy na £1.3biliwn, sy’n lefel na welwyd erioed o’r blaen yng ngorllewin Cymru. Mae hwn yn gais sylweddol ond mae’n adlewyrchu anferthedd y newid a’r gwelliant a geisir er budd ein cymunedau.

Mae cynigion yn y cynllun yn cynnwys;

  • galluogi integreiddio a chydweithio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, yn cwmpasu gofal cymunedol, gofal sylfaenol (fel meddygon teulu, fferyllwyr cymunedol) a gwasanaethau ysbyty
  • buddsoddi mewn hybiau cymunedol presennol neu newydd (fel canolfannau gofal integredig) ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro i ddod â mwy o ofal yn nes at adref
  • Ysbyty Gofal Brys a Gofal wedi’i Gynllunio newydd, rhywle rhwng Arberth a Sanclêr, gan ddarparu gwahaniad cynllun rhwng gofal wedi’i gynllunio a gofal brys a fydd yn diogelu’r gallu i ddarparu’r ddau fath o ofal a lleihau amseroedd aros; ac yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl
  • ail-bwrpasu neu ail-adeiladu Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd; ac Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, gan gynnwys unedau mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu, y gallu i ddarparu gofal yr un diwrnod, a gwelyau ar gyfer cleifion nad oes angen iddynt fod mewn lleoliad acíwt ond sydd angen cymorth
  • gwelliannau a moderneiddio Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, ac Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. Bydd Ysbyty Bronglais yn parhau i ddarparu gofal brys aciwt a gofal wedi’i gynllunio a bydd Ysbyty Tywysog Philip yn parhau i ddarparu uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu yn ogystal â gofal meddygol acíwt i oedolion, gwelyau dros nos dan arweiniad meddygon ymgynghorol a chymorth diagnostig.


Bydd newid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu a gwella’r amgylcheddau yn gwella canlyniadau cleifion, ansawdd gofal a phrofiad y claf. Drwy ddwyn rhai gwasanaethau ynghyd ar lai o safleoedd, megis trawma, llawfeddygaeth frys ac adrannau damweiniau ac achosion brys, bydd y bwrdd iechyd hefyd yn gallu gwella safonau.

Er mwyn arfarnu’r holl opsiynau’n briodol, fel sy’n ofynnol gan broses achos busnes Llywodraeth Cymru, bydd y cam nesaf yn edrych yn fanylach ar sut yr ydym yn addasu ysbytai Glangwili a Llwynhelyg at ddibenion gwahanol. Byddai hyn yn cynnwys opsiynau i ddefnyddio’r adeiladau a’r lleoliadau presennol, ond hefyd y potensial i’w hail-adeiladu ar safle.

Agwedd sylfaenol arall ar yr Achos Busnes Rhaglen yw ffocws ar ddarparu gwell amodau a chyfleoedd i staff, er mwyn cadw a denu’r gweithlu sydd ei angen. Un o heriau mwyaf y bwrdd fu prinder gweithlu a gorddibyniaeth ar staff dros dro a chost hynny.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd am sicrhau’r budd cymdeithasol mwyaf posibl o’r ffordd y mae’n gweithio ac mae’n rhagweld y byddai’r buddsoddiad arfaethedig yn dod â manteision economaidd sylweddol i’n cymunedau. Er enghraifft, y strategaeth caffael (prynu) yw i gynyddu cyfran y gwariant gyda chyflenwyr lleol neu ddarparwyr sy’n cefnogi cyfleoedd gwaith i ddinasyddion mwy agored i niwed neu gyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau yn lleol.

Mae’r Achos Busnes Rhaglen yn cydnabod yr angen i greu seilwaith digidol a fydd yn galluogi’r bwrdd iechyd i gysylltu â chleifion a defnyddwyr gwasanaeth ym mhob lleoliad, gan greu system iechyd ‘heb furiau’. Byddai hyn yn cynnwys arloesiadau, megis nwyddau gwisgadwy, cofnodion iechyd electronig mwy datblygedig, a mwy o ddefnydd o dechnoleg i symleiddio prosesau gan gynnwys derbyn a rhyddhau cleifion.

Drwy’r trawsnewid hwn y mae’r bwrdd iechyd yn credu y gall ei adeiladau a’i seilwaith gefnogi strategaeth datgarboneiddio GIG Cymru.

Ychwanegodd Mr Moore: “Rwy’n deall cryfder y teimlad ac angerdd ein staff a’r cyhoedd tuag at ein Gwasanaeth Iechyd ac rydym am barhau i harneisio hynny a pharhau i ymgysylltu â’n cymunedau wrth i ni adeiladu mwy o fanylion o amgylch y cynlluniau hyn.

“Er mwyn galluogi symudiad cenhedlaeth i system lesol, mae angen y pecyn cyfan o ataliaeth ac ymyrraeth gynnar, ym mhob cyfnod o fywyd. Mae hynny’n cynnwys asgwrn cefn gwasanaethau sylfaenol a chymunedol cryf a chynaliadwy; darpariaeth briodol o adsefydlu a therapïau; gwasanaethau ysbyty acíwt sy’n gallu darparu’r safon o ddarpariaeth y mae ein cymunedau yn ei haeddu; a gweithlu a gefnogir.”

Yn diyn cymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth Cymru, bydd y bwrdd Iechyd wedyn yn symud i gam nesaf yr achosion busnes amlinellol a therfynol unigol ar gyfer elfennau o’r rhaglen. Bydd angen ymgysylltu’n rheolaidd, ac o bosibl ymgynghori ar rannau o’r rhaglen gyda chleifion, y cyhoedd, staff a phartneriaid.

Yn y cyfamser, bydd y bwrdd iechyd yn parhau â’r broses o ddewis safle a pharatoi ar gyfer caffael tir ar gyfer yr ysbyty gofal brys a gofal wedi’i gynllunio newydd. Rydym yn gweithio gyda’r Sefydliad Ymgynghori i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu cynnwys yn y meini prawf a’r sgorio terfynol ar opsiynau. Byddwn yn rhannu cynnydd ar hyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law. Y gobaith yw y bydd safle a ffefrir yn cael ei nodi yn yr haf.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond

Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.