17.6 C
Llanelli
Thursday, September 3, 2026
Home Charity Byddwch yn grefftus y Pasg hwn drwy gofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Boned...

Byddwch yn grefftus y Pasg hwn drwy gofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Boned Pasg Elusennau Iechyd Hywel Dda!

0
459
Easter Bonnet Competition photo
Easter Bonnet Competition photo

Os ydych chi’n teimlo’n arbennig o greadigol y Pasg hwn, mae gan Elusennau Iechyd Hywel Dda’r gweithgaredd i chi gyda Chystadleuaeth Boned Pasg 2022!

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol y GIG ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion, yn cynnig gweithgaredd sy’n ystyriol o deuluoedd y gall pawb gymryd rhan ynddo. Ac yn anad dim, bydd cyfranogwyr hefyd yn helpu i wella profiad staff a chleifion ar draws y rhanbarth.

Mae’r gystadleuaeth yn cynnig gwobrau i wahanol grwpiau oedran ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all gymryd rhan. Nid oes neb yn rhy ifanc nac yn rhy hen i gymryd rhan, cael hwyl, a gwneud eu rhan dros eu helusen GIG leol!

Gall cyfranogwyr gystadlu am £2 yn unig a byddant yn addurno Boned Pasg neu het, neu gallant ddewis addurno un o dri thempled het.

Gellir gwneud taliadau trwy’r dudalen rhoi ar-lein bwrpasol:

https://hyweldda.enthuse.com/cf/hywel-dda-easter-bonnet, yna gofynnir i gyfranogwyr anfon llun o’u ceisiadau atom: fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk.


Daw’r gystadleuaeth i ben ar 12 Ebrill 2022. Cyhoeddir yr enillwyr ar 13 Ebrill 2022 a bydd y cynigion yn cael eu harddangos ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol yr elusen.

Dywedodd Katie Hancock, Swyddog Codi Arian Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Byddem wrth ein bodd pe bai cymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn ein Cystadleuaeth Boned Pasg 2022. Nid oes cyfyngiad ar ba mor wyllt a gwallgof y gall y bonedau fod – gallwch ddefnyddio hetiau, capiau neu drilbies ar gyfer cynigion cwbl unigryw. Byddwn yn rhannu lluniau ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, a gobeithiwn y bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael amser llawn hwyl!”

Mae manylion llawn ar gael yma https://hyweldda.enthuse.com/cf/hywel-dda-easter-bonnet, neu trwy e-bostio Katie.Hancock3@nhs.wales.uk neu ffonio 07816 080608.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.