17.9 C
Llanelli
Friday, August 28, 2026
Home Local News Carmarthenshire News Ymgynghoriad Meddygfa Tycroes bellach wedi cau 

Ymgynghoriad Meddygfa Tycroes bellach wedi cau 

0
549
Ty Crose Surgery
Ty Crose Surgery

Mae’r dyddiad cau i bobl roi eu barn am gynlluniau Meddygfa Tycroes bellach wedi mynd heibio.

Yn dilyn cais gan Feddygfa Stryd Marged, Rhydaman, i gau ei feddygfa gangen, Tycroes, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) bobl i ddweud eu dweud erbyn dydd Gwener 24 Mehefin.

Tra bod y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, bydd unrhyw ymatebion neu sylwadau pellach a gyflwynwyd yn dal i gael eu cofnodi.

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a’r Cyngor Iechyd Cymuned ddiolch i bawb a gyfrannodd. Bydd yr adborth yn cael ei adolygu fel rhan o’r broses Gytundebol ffurfiol y mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ei dilyn ar ôl derbyn unrhyw gais i gau Meddygfa Gangen, a disgwylir i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf

Mae Tycroes wedi bod ar gau ers Chwefror 2020 oherwydd y pandemig COVID-19 ac roedd yr adeilad yn gwasanaethu fel ‘safle coch’ ar gyfer clwstwr Meddygon Teulu Aman Gwendraeth. Cyn y pandemig, defnyddiwyd y gangen ar gyfer ystod o wasanaethau meddygol cyffredinol. Ers ei gau dros dro, mae cleifion Tycroes wedi defnyddio Practis Stryd Marged, sydd tua dwy filltir i ffwrdd. Mae llwybr bws rheolaidd rhwng y ddwy Feddygfa.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon i ddarllen rhai cwestiynau cyffredin yn seiliedig ar rywfaint o’r adborth a dderbyniwyd.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.