8.5 C
Llanelli
Sunday, March 8, 2026
Home hywel dda health board Ychwanegu dyddiadau newydd i’r ymgynghoriad ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac...

Ychwanegu dyddiadau newydd i’r ymgynghoriad ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili

0
370
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board
Ysbyty Glangwili General hospital Carmarthen which is part of the Hywel Dda Health Board

O 26 Mai eleni, ac yn parhau tan 24 Awst 2023, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn gwahodd staff, gwirfoddolwyr, y cyhoedd a sefydliadau partner, i rannu eu barn ar wasanaethau brys ac argyfwng plant ac ieuenctid (pediatreg) yn ysbytai Llwynhelyg a Glangwili. Rydym yn ceisio eich barn ar sut orau i ddarparu’r gwasanaethau hyn, a hynny yn dilyn cyfres o newidiadau dros dro ers 2016. Mae hyn yn rhan o strategaeth ehangach y bwrdd iechyd i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Yn dilyn newidiadau dros dro i wasanaethau pediatreg ers 2016, mae angen inni nawr roi ateb hirdymor ar waith a fydd mewn lle tan datblygu’r ysbyty newydd ar gyfer gofal brys a gofal wedi’i drefnu. Rydym wedi gweithio gyda’n timau clinigol a phediatreg i nodi’r opsiynau ar gyfer y gwasanaethau i’r dyfodol, ac mae gennym dri opsiwn i chi eu hystyried. Ar hyn o bryd, nid ydym yn ffafrio unrhyw un o’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau brys ac argyfwng i blant ac ieuenctid yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili.

I’r tri opsiwn, mae’n bwysig nodi y bydd mynediad at ofal argyfwng plant yn parhau yn adran argyfwng Ysbyty Glangwili, a bydd gofal mân anafiadau plant yn parhau yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili. Yn ogystal, mae systemau eisoes mewn lle i sicrhau bod unrhyw blentyn neu berson ifanc â chyflwr critigol sy’n cyrraedd Ysbyty Llwynhelyg yn cael y gofal gorau sydd ar gael, ac yn y lle mwyaf priodol. Bydd hyn yn parhau fel rhan o’r gwasanaeth newydd. Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol, bydd y Bwrdd yn ystyried yr holl adborth mewn cyfarfod y Bwrdd tua diwedd 2023, a hynny ochr yn ochr â phob tystiolaeth a gwybodaeth berthnasol arall a gasglwyd yn ystod y broses hyd yn hyn.

Er mwyn sicrhau ein bod yn cael adborth gan gymaint o bob â phosib yn ein cymunedau, rydym wedi ychwanegu mwy o ddyddiadau ar gyfer digwyddiadau wyneb-yn-wyneb yn Hwlffordd a Doc Penfro:

  • 1 Awst 2023: 5pm – 8:30pm, Y Depo, Haverhub, Hen Swyddfa Bost, 12 Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG
  • 10 Awst 2023: 5pm – 8:30pm, Neuadd Pater, Stryd Dimond, Doc Penfro, SA72 6AH

Mae manylion yr ymgynghoriad, gan gynnwys gwybodaeth ar sut i gofrestru ar gyfer sesiynau ar-lein, copïau o ddogfennau’r ymgynghoriad mewn ystod o fformatau, a manylion ar sut i rannu eich barn, ar gael ar wefan y Bwrdd Iechyd: Gwasanaethau plant yn y dyfodol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (gig.cymru) . Gobeithio y gallwch ymuno â ni yn un o’n digwyddiadau.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.