12.4 C
Llanelli
Sunday, October 25, 2026
Home Farming Astudio gwerth gwrychoedd wrth storio carbon islaw’r tir ym Mhrosiect Pridd Cymru/

Astudio gwerth gwrychoedd wrth storio carbon islaw’r tir ym Mhrosiect Pridd Cymru/

0
456
Soil Sampling as part of the Welsh Soil Project
Soil Sampling as part of the Welsh Soil Project

Mae’r rhan y mae gwrychoedd yn ei chwarae wrth ddal a storio carbon mewn pridd yn cael ei archwilio wrth i Cyswllt Ffermio gasglu samplau o bridd ledled Cymru, mewn menter a fydd yn darparu data meincnodi pwysig i ffermwyr.

Mae casglu data am ail flwyddyn Prosiect Pridd Cymru yn mynd rhagddo, a’r tro hwn mae samplau o bridd hefyd wedi cael eu casglu o dir o fewn metr o wrychoedd y cae, yn ogystal â samplau o fewn y cae.

Dywedodd Dr Non Williams, Swyddog Arbenigol Carbon Cyswllt Ffermio, mai’r nod yw cymharu stoc carbon pridd mewn caeau ac o dan lystyfiant coediog.

“Rydym yn aml yn cael cwestiynau gan ffermwyr am hyn, ac rydym yn gobeithio y bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn rhoi’r atebion iddynt,” meddai.

“Bydd amcangyfrif lefelau carbon mewn pridd wrth wrychoedd yn helpu i amlygu eu pwysigrwydd i liniaru effeithiau newid hinsawdd.”

Mae gan ffermwyr ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a gall priddoedd chwarae rhan bwysig yn hynny.

Mae samplau Prosiect Pridd Cymru yn cael eu dadansoddi cyn Wythnos Hinsawdd Cymru ym mis Rhagfyr.

Casglwyd dros 1,000 o samplau o ffermydd sy’n rhan o Rwydwaith Ein Ffermydd Cyswllt Ffermio, ac yna cawsant eu dadansoddi ar gyfer cynnwys deunydd organig a dwysedd swmp, yn ogystal â mesuriadau eraill.

Ar gyfer cysondeb, casglwyd pob sampl o fewn yr un cyfnod yr hydref hwn ac o gaeau glaswellt, gan gynnwys porfa barhaol, caeau gwair a silwair, a chaeau wedi’u hail-hadu.

“Mae’r prosiect hwn yn edrych ar sut mae dwyster rheoli amrywiol, ynghyd â ffactorau daearyddol, yn effeithio ar stoc carbon pridd ledled Cymru.”

Casglwyd pridd o sawl dyfnder, o’r 10cm uchaf i ddyfnder o 50cm.

Mae Dr Williams, sy’n arwain y prosiect, yn un o’r siaradwyr mewn digwyddiad gwyddor pridd mawr yn Belfast ym mis Rhagfyr.

Yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Gwyddor Pridd Prydain a Chymdeithas Gwyddor Pridd Iwerddon, bydd yn rhoi cyflwyniad ar ganlyniadau rhagarweiniol y prosiect.

Mae carbon pridd a charbon yn gyffredinol hefyd yn themâu mewn tri Dosbarth Meistr Cyswllt Ffermio sy’n cael eu cynnal ym mis Chwefror 2024.

Dywedodd Dr Williams, a fydd yn arwain y gweithdai hyn, y bydd yn rhoi cyfle i ffermwyr wella eu dealltwriaeth o hanfodion mesur ôl troed carbon cyn i archwiliad carbon gael ei gynnal ar eu ffermydd.

“Bydd y gweithdai rhyngweithiol hyn yn canolbwyntio ar chwalu’r jargon ynghylch carbon, caniatáu i ffermwyr ddysgu am arwyddocâd cylch carbon eu fferm, a sut y gellir dylanwadu arno i helpu i leihau ôl troed carbon y fferm yn y dyfodol,” meddai.

Cynhelir y digwyddiadau hyn yn Llety Cynin, Sanclêr, ar 6 Chwefror, yn Elephant and Castle, Y Drenewydd, ar 8 Chwefror, ac yng Ngwesty Nanhoron Arms, Nefyn, ar 20 Chwefror, i gyd rhwng 7.30pm a 9:30pm.

Mae rhagor o fanylion am sut i neilltuo lle ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here

Secret Link
West Wales Chronicle : News for Llanelli, Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion, Swansea and Beyond
Privacy Overview

This website uses cookies so that we can provide you with the best user experience possible. Cookie information is stored in your browser and performs functions such as recognising you when you return to our website and helping our team to understand which sections of the website you find most interesting and useful.